Mae cynghorwyr Gwynedd wedi gohirio penderfyniad ar ddyfodol ysgol leiaf y sir er mwyn cael cyfle i drafod â’r gymuned.

Roedd disgwyl i Gabinet Cyngor Gwynedd drafod dyfodol Ysgol Felinwnda yn Llanwnda ger Caernarfon, sydd gan wyth o ddisgyblion, mewn cyfarfod heddiw (Mawrth 28).

Yr argymhelliad oedd am gael ei gyflwyno oedd cau’r ysgol ar ddiwedd y flwyddyn academaidd.

Yn ôl adroddiad i’r cabinet, mae nifer y disgyblion sy’n mynychu’r ysgol wedi gostwng o 31 yn 2012.

Roedd yr argymhelliad yn cynnwys cynnig bod y disgyblion yn mynd i Ysgol Bontnewydd yn lle, sydd tua dwy filltir o Lanwnda, ond mae nifer o rieni yn anghytuno gyda hyn gan fod y plant wedi arfer gwneud gwersi a gweithgareddau efo Ysgol Llandwrog, ac yn rhannu pennaeth.

Cafodd cyfarfod cyhoeddus ei gynnal ym mhentref Llanwnda neithiwr (Mawrth 27), ac roedd sawl rhiant, a’r cynghorydd lleol, yn teimlo bod diffyg cyfle wedi bod i bobol ddweud eu barn.

Bydd cyfnod o ymgynghoriad yn cael ei gynnal gyda’r gymuned leol nawr.

“Un teulu mawr”

Un sydd â dau o blant yn yr ysgol yw Sioned Griffith-Jones, ac mae hi’n pwysleisio buddion cael ysgol fach wledig a chyfraniad ysgol at yr ysbryd cymunedol.

“I fi mae’r ysgol fel estyniad o’r cartref,” meddai Sioned Griffith-Jones wrth golwg360, gan ddweud bod plentyn arall iddi’n gyn-ddisgybl hefyd.

“Mae’r ysgol fel un teulu mawr lle mae’r plant hŷn yn chware efo’r plant bach, ac mae pawb yn gwybod lle maen nhw’n ffitio mewn yn yr ysgol.

“Mae’r ysgol yn ddrws agored, mae hi mor braf gallu siarad efo rhywun sy’n nabod fy mhlentyn i gystal â finnau bron iawn.”

Ar hyn o bryd, mae’r ysgol yn cyflogi pennaeth rhan amser, sydd hefyd yn bennaeth ar Ysgol Llandwrog, ac un athro llawn amser.

Mae cost y pen ar gyfer pob disgybl yn Ysgol Felinwda yn £14,643, o gymharu â’r cyfartaledd o £4,509 fesul pen dros Wynedd.

“Mae ei gwerth hi’n fwy nag un ariannol,” meddai’r rhiant.

“Mae’n bwysig cael plant sydd wedi cael addysg a phrofiadau mewn ysgol wledig.

“Mae’n bwysig cael rheiny yn oedolion yn y gymdeithas ac yn y dyfodol.”

Ysgol amgen

Yn ôl Sioned Griffith-Jones, ni fyddai symud y plant i Ysgol Bontnewydd yn ddatrysiad addas, yn enwedig o ystyried y berthynas sydd gan yr ysgol ag Ysgol Llandwrog yn barod.

“Mae’r plant yma wedi arfer mewn ysgol wledig.

“Mae’r plant wedi arfer efo plant ysgol Llandwrog, maen nhw’n rhannu gwersi, maen nhw’n rhannu gweithgareddau.

“I fi dydy o ddim yn gwneud dim synnwyr i wneud ysgol ddiarth, ysgol fawr, yn ysgol amgen i ysgol Felinwnda.”

Gohirio’r penderfyniad

Er bod y cynghorydd Huw Rowlands yn teimlo’i bod hi’n rhesymol ystyried dyfodol yr ysgol, oherwydd ei maint, tan rŵan, does dim digon o ymgysylltu wedi bod efo’r gymuned, meddai.

Roedd e’n un oedd wedi gofyn i Gabinet Cyngor Gwynedd ohirio’r penderfyniad i gyhoeddi’r papur statudol heddiw, er mwyn gallu cynnal trafodaethau.

“Fy marn i yw fy mod yn deall bod Cyngor Gwynedd yn edrych ar ddyfodol yr ysgol,” meddai Huw Rowlands wrth golwg360.

“Mae’r niferoedd yn isel felly mae’n rhesymol bod nhw’n ystyried y mater ond y gynnen ydy bod dim trafodaeth wedi bod.

“Fy marn i ydy bod angen cydweithio yn well efo’r gymuned a deall yr holl ffeithiau yn iawn, cydweithio mwy, ateb yr her sydd yna’n lleol ac wedyn gweld be gallith ei wneud i ddatrys.

“Yn sicr mae yna deimlad yn lleol bod y broses ddim wedi cael ei wneud yn y ffordd fwyaf tryloyw [cyn hyn], sef rhoi cyfle i bobol roi ei barn.

“Mae ysgolion bach eraill wedi cau yn y gorffennol lle cawson nhw nifer o drafodaethau cychwynnol yn yr ysgol lle cawson nhw hefyd ymgynghoriad cyhoeddus felly roedd prosesau llawer hirach a fwy teg yn fy marn i.”

‘Cyfnod o ymgysylltu’

Dywedodd llefarydd ar ran Awdurdod Addysg Lleol Gwynedd: “Yng nghyfarfod Cabinet Cyngor Gwynedd heddiw (28/03/2023), cyhoeddodd y Cynghorydd Beca Brown, yr Aelod Arweiniol dros Addysg, ei phenderfyniad i beidio cyflwyno’r argymhelliad i ddechrau proses o gau Ysgol Felinwnda am y tro.

“Bydd y Cyngor nawr yn symud ymlaen i gyfnod o ymgysylltu gyda chymunedau Llanwnda, Llandwrog a chymunedau cyfagos, ar faterion sy’n gysylltiedig â dyfodol yr ysgol.

“Bydd y mater yn dychwelyd gerbron y Cabinet wedi i’r trafodaethau hyn ddod i ben.”