Dylai dŵr Cymru fod yn nwylo Cymru, meddai Plaid Cymru cyn codi’r mater yn y Senedd heddiw (Mawrth 28).
Mae Adam Price, Arweinydd Plaid Cymru, wedi mynnu y dylai rheolaeth dros ddŵr yng Nghymru gael ei ddatganoli “ar unwaith”.
Cafodd hynny ei addo chwe blynedd yn ôl, ond yn ôl Llywodraeth Cymru, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn parhau i’w rwystro.
Yn ystod Cwestiynau’r Prif Weinidog, mae disgwyl i Adam Price ofyn i Mark Drakeford pa bwysau fydd e’n ei roi ar San Steffan.
Cymru yw’r unig wlad yn y Deyrnas Unedig sydd heb yr hawl i ddeddfu ar y dŵr o fewn eu ffiniau.
Ar hyn o bryd, dydy Llywodraeth Cymru ond yn gallu rheoleiddio cwmnïau dŵr sydd wedi’u lleoli’n bennaf neu’n gyfan gwbl yng Nghymru.
Golyga hynny nad oes ganddyn nhw reolaeth dros gwmnïau fel United Utilities a Severn Trent Water, sy’n cynllunio i symud 180 miliwn litr ychwanegol y dydd o Gymru i dde ddwyrain Lloegr.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau hefyd nad ydyn nhw’n gallu newid y swm mae Severn Trent Water yn ei thalu am y 360 miliwn litr dyddiol sy’n cael ei gymryd o Gwm Elan.
‘System chwerthinllyd’
Dylai adnoddau naturiol Cymru gael eu rheoli gan Gymru er budd cymunedau’r wlad, meddai Adam Price.
“Chwe blynedd ar ôl i ddatganoli grymoedd dros ddŵr gael eu haddo i ni, does yna ddim dropyn o bŵer ychwanegol wedi cyrraedd Cymru oherwydd bod San Steffan wedi rhwystro hynny,” meddai Adam Price.
“Yn hytrach, rydyn ni’n wynebu system chwerthinllyd sy’n golygu nad ydyn ni’n gallu addasu pris y dŵr rydyn ni’n ei werthu i Loegr, ond mae eu cwmnïau nhw’n cael gwneud elwon anferthol drwy werthu ein dŵr ni ymlaen.
“Mae hi’n hollbwysig bod y grym dros ddŵr yn cael ei ddatganoli i Gymru ar unwaith.”
‘Dangos manteision i Gymru’
Mewn ateb i gwestiwn ysgrifenedig blaenorol gan Adam Price ynglŷn â thrafodaethau Llywodraeth Cymru â chwmnïau dŵr am gynlluniau i symud dŵr Cymru i Loegr, dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd: “Rhaid i unrhyw ddatblygiad sy’n cynnwys caffael dŵr o Gymru ddangos buddion economaidd ac amgylcheddol, a manteision ehangach, i bobol Cymru, ynghyd â sicrhau bod digon o ddŵr ar gael yn y dyfodol i’r rhai sydd ei angen.
“Bydd rhaid i unrhyw gynigion sy’n effeithio Cymru ystyried anghenion a buddion Cymru, yn enwedig sicrhau bod ein hadnoddau naturiol yn cael eu rheoli mewn ffordd gynaliadwy, ac yn cyd-fynd â deddfau a gofynion polisi Cymru, gan gynnwys sut mae’r cynigion yn cefnogi cwtogi allyriadau nwyon tŷ gwydr ynghyd â mynd i’r afael â’r argyfyngau natur a hinsawdd.”