Mae angen i Blaid Cymru a’r Blaid Lafur “wynebu realiti” wrth gynllunio twf addysg Gymraeg, meddai Dyfodol i’r Iaith.
Daw eu sylwadau wrth iddyn nhw ymateb i Bapur Gwyn Llywodraeth Cymru ar gyfer Deddf Addysg Gymraeg newydd.
Mae’r ddeddf arfaethedig yn rhan o’r Cynllun Cydweithredu rhwng Plaid Cymru a’r Blaid Lafur, ac yn cynnig cynllun ar sut i sicrhau bod pob disgybl yn siaradwyr Cymraeg hyderus erbyn 2050.
‘Perygl o fethu targedau’
Bydd unrhyw dwf yn dibynnu ar faint y gweithlu, ac ar ganolbwyntio ar y blynyddoedd cynnar i ddechrau, meddai Dyfodol i’r Iaith.
“Mae perygl y bydd y Bil Addysg newydd yn methu pob targed, fel y mae’r Llywodraeth wedi methu pob targed addysg Gymraeg yn y gorffennol,” medd Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith.
“Proffwydodd y Llywodraeth yn 2010 y byddai 30% o ddisgyblion saith oed mewn addysg Gymraeg erbyn 2020, ond methwyd yn llwyr.
“Y targed ers 2017 yw cael 30% mewn addysg Gymraeg erbyn 2030. I gyrraedd y nod yma, dywed y Llywodraeth fod angen 1,000 yn rhagor o athrawon cynradd, a 1,300 arall erbyn 2050.
“Mae angen i’r Llywodraeth roi’r gorau i ffantasi, a chynnig targedau cyraeddadwy, a buddsoddi ar raddfa fawr.
“Bydd angen rhaglen gyflawn o gyrsiau iaith dwys i athrawon a darpar athrawon.
“Mae angen i’r Papur Gwyn gynnig llwybr i gyflawni hyn, gan ganolbwyntio ar athrawon a staff cylchoedd chwarae a’r blynyddoedd cynnar, a rhoi lle canolog i dwf Mudiad Meithrin.
“I gyflawni hyn mae angen ymrwymo buddsoddiad ariannol sylweddol hirdymor i’r maes, fel bod gan is-adran y Gymraeg y Llywodraeth rym gwirioneddol i gyrraedd y nod uchelgeisiol.
“Heb hynny bydd cenedlaethau’r dyfodol o Gymry ifanc yn parhau i gael eu hamddifadu o’u mamiaith.”
Mae cynigion Llywodraeth Cymru yn y Papur Gwyn yn cynnwys rhoi cymorth arbenigol i ysgolion o ran dysgu Cymraeg, a byddai’r ddeddf yn arwain at gynnydd yn nifer yr ysgolion cyfrwng Cymraeg.