Mae Oriol Junqueras wedi’i ailethol yn Llywydd plaid Esquerra Republicana Catalan, gan ennill 52 o’r bleidlais.
Fe wnaeth yr ymgeisydd, oedd wedi sefyll o dan yr enw Militància Decidim (Yr Aelodau sy’n Penderfynu), guro Xavier Godàs o blaid Nova Esquerra Nacional (Y Chwith Genedlaethol Newydd), oedd wedi ennill 42% o’r bleidlais.
Fe wnaeth 82% o’r rhai oedd yn gymwys fwrw eu pleidlais yn yr ail rownd, gydag 81% wedi pleidleisio yn y rownd gyntaf, gan dorri record.
Fe fu Oriol Junqueras yn Llywydd ar ei blaid ers 13 o flynyddoedd bellach, gan gynnwys pedair blynedd dan glo am ei ran yn yr ymgyrch dros annibyniaeth i Gatalwnia.
Fe wnaeth e gamu o’r neilltu am gyfnod byr ym mis Mehefin ar ôl canlyniadau siomedig ei blaid yn etholiadau Catalwnia ac Ewrop.
Ysgrifennydd Cyffredinol newydd y blaid yw Elisenda Alamany, sy’n olynu Marta Rovira yn ail swydd fwya’r blaid.
Ar ôl ei ailethol, mae Oriol Junqueras yn galw am undod o fewn ei blaid yn dilyn honiadau bod y blaid wedi’i hollti.