Mae 193 o bobol wedi elwa ar y Bil Amnest yng Nghatalwnia yn ystod y chwe mis ers ei gyflwyno, yn ôl y mudiad Alerta Solidària.

Plismyn yw 96 ohonyn nhw, gydag 84 yn ymgyrchwyr neu’n brotestwyr, ac 13 yn wleidyddion neu’n swyddogion cyhoeddus.

Does yna’r un plismon wedi cael gwrthod cais am amnest, tra bod ceisiadau 28 o brotestwyr a 23 gwleidydd wedi’u gwrthod.

Mae pymtheg o brotestwyr a 52 o wleidyddion neu swyddogion cyhoeddus yn destun achosion sydd wedi’u trosglwyddo i lysoedd eraill.

Hefyd yn destun amnest mae wyth diffoddwr tân o Girona, oedd wedi’u cyhuddo o gymryd rhan mewn protest drannoeth y refferendwm annibyniaeth yn 2017, oedd yn cael ei ystyried yn anghyfansoddiadol gan Lywodraeth Sbaen.