Mae Cyngor Sir Powys wedi gohirio’u hadolygiad o wasanaethau hamdden a chwaraeon Powys tan yr haf, er mwyn caniatáu “trafodaethau ehangach” gyda chymunedau.

Mae’r Cyngor wedi bod yn cynnal adolygiad cynhwysfawr o wasanaethau, er mwyn edrych ar ffyrdd o’u darparu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Dywed y Cynghorydd Richard Church fod barn cymunedau yn “chwarae rhan bwysig” wrth helpu’r Cyngor i lunio cynlluniau hamdden.

Ychwanega fod y Cyngor yn wynebu “pwysau ariannol hirdymor”, a bod creu sir gynaliadwy yn ymwneud â “chydweithio i ddod o hyd i ffyrdd o ddiogelu gwasanaethau mae pobol yn eu gwerthfawrogi”.

“Mae ein gwasanaethau yn uchel eu parch ac wedi cael cefnogaeth dda yn y gorffennol, ond mae rhan gychwynnol yr adolygiad wedi dangos na all y cyfleusterau presennol gyflawni ein dyheadau ar gyfer sir iach ac egnïol, heb fuddsoddiad a chydweithrediad sylweddol gyda chymunedau,” meddai.

“Mae trafod gyda’n hardaloedd yn rhan bwysig o Bowys Gynaliadwy, a bydd dyfodol hamdden a chwaraeon bellach yn rhan o’r broses honno.”