Mae Llywodraeth Cymru wedi neilltuo £1.7m er mwyn helpu i leddfu effeithiau tlodi bwyd.

Bydd y cyllid yn rhoi cymorth i’r rhai sydd fwyaf mewn angen, ac yn cefnogi prosiectau cymunedol sy’n gweithio i fynd i’r afael â thlodi bwyd a’i atal yn y tymor hirach.

Bydd y cyllid yn:

  • rhoi cymorth bwyd brys i unigolion drwy helpu grwpiau lleol i storio a dosbarthu bwyd i’r bobol sydd ei angen fwyaf, tra hefyd yn mynd i’r afael ag achosion sylfaenol tlodi bwyd
  • cefnogi FareShare Cymru drwy brynu offer i storio a danfon bwyd ffres yn ystod misoedd y gaeaf a chynnal gweithgareddau addysg bwyd i helpu teuluoedd ac unigolion incwm isel i reoli costau cynyddol
  • cryfhau partneriaethau bwyd ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru, gan eu helpu i fynd i’r afael ag anghenion lleol, a sicrhau bod adnoddau’n cyrraedd y rhai sy’n wynebu’r heriau mwyaf.

Mae’r £1.7m ychwanegol hwn yn adeiladu ar y £2.8m mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi’i roi i helpu i fynd i’r afael â thlodi bwyd eleni, ac mae’n dod â chyfanswm y buddsoddiad yn y maes i dros £24m ers 2019.

Ffreutur gymunedol

Cafodd y cyllid ei gyhoeddi heddiw (dydd Mawrth, Rhagfyr 17) yng Nghegin Hedyn yng Nghaerfyrddin.

Ond fe fydd ar gael ledled Cymru.

Ffreutur gymunedol yw Cegin Hedyn, sy’n gweithredu ar sail Talu-Beth-Fedrwch-Chi ac yn rhan o rwydwaith o sefydliadau sy’n mynd i’r afael â thlodi bwyd, ac sy’n gweithio gyda phartneriaeth fwyd Sir Gaerfyrddin, Bwyd Sir Gâr.

Mae Bwyd Sir Gâr yn gweithio’n agos gyda grwpiau a mentrau ar draws y rhanbarth i roi cymorth wedi’i dargedu i’r rhai sydd ei angen fwyaf.

Mae Cegin Hedyn yn sicrhau bod pawb yn gallu cael mynediad at gynnyrch ffres, organig, tymhorol, gyda chynnyrch yn cael ei dyfu’n lleol yn eu Rhandir Cymunedol.

Mae Bwyd Sir Gâr hefyd yn darparu llysiau gaiff eu tyfu yn fferm Bremenda Isaf yn Llanarthne i Gegin Hedyn, ac yn cynnig mentora a chefnogaeth i’r gwirfoddolwyr yn y rhandir.

Mae Cegin Hedyn yn cael ei redeg gan y cogydd Deri Reed.

“Mae’r cyllid hwn yn gymorth pwysig i gymunedau fel ein cymuned ni, gan sicrhau y gallwn barhau i ddarparu prydau bwyd ffres, maethlon, i’r rhai sydd ei angen fwyaf, gan adeiladu system fwyd fwy cynaliadwy a chynhwysol yr un pryd,” meddai.

“Yng Nghegin Hedyn, rydym yn credu yng ngrym bwyd i ddod â phobol at ei gilydd a chreu newid cadarnhaol.

“Bydd y cymorth hwn yn ein helpu i ehangu ein cyrhaeddiad, tyfu mwy o gynnyrch organig yn lleol, a chryfhau’r partneriaethau bwyd sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol wrth fynd i’r afael â thlodi bwyd yn Sir Gâr a thu hwnt.”

Synnwyr Bwyd Cymru

Mae Synnwyr Bwyd Cymru yn gweithio’n agos gyda Bwyd Sir Gâr a phartneriaethau bwyd ledled Cymru i helpu i greu datrysiadau cynaliadwy i alluogi pawb i fwynhau bwyd iach a chynaliadwy.

“Drwy gryfhau ei chefnogaeth i bartneriaethau bwyd ledled Cymru, mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd meithrin gwydnwch mewn systemau bwyd lleol – o ran amrywio cadwyni cyflenwi lleol, a thrwy adeiladu a threfnu asedau a chymdeithas sifil mewn ffordd sy’n unigryw i anghenion y gymuned leol,” meddai Katie Palmer o Synnwyr Bwyd Cymru.

Yn ôl Jane Hutt, Ysgrifennydd Cyfiawnder Cymdeithasol Cymru, “ddylai neb orfod poeni am sut maen nhw’n mynd i roi bwyd ar y bwrdd”.

“Fel llywodraeth, rydym wedi ymrwymo i fynd i’r afael â thlodi bwyd a sicrhau bod cefnogaeth yn cyrraedd y bobol sydd ei angen fwyaf,” meddai.

“Bydd y pecyn newydd hwn o £1.7m o gyllid yn rhoi cymorth lleol i’r rhai sy’n cael trafferth gyda chostau bwyd ac yn gosod y sylfaen ar gyfer datrysiadau tymor hir i atal tlodi bwyd.

“Drwy gefnogi cymorth brys, addysg bwyd a phartneriaethau lleol, rydym yn mynd i’r afael â’r argyfwng hwn o bob ongl.

“Mae partneriaethau bwyd lleol yn hanfodol yn yr ymdrech hon.

“Maen nhw’n gweithio gyda phrosiectau ysbrydoledig, fel Cegin Hedyn, sydd nid yn unig yn rhoi prydau bwyd i bobol, ond sydd hefyd yn dod â phobol at ei gilydd ac yn cefnogi’r gymuned ehangach.

“Mae eu hymdrechion yn dangos beth sy’n bosibl pan fydd grwpiau lleol a rhwydweithiau ehangach yn dod at ei gilydd i gefnogi’r rhai mwyaf anghenus.”