Enw: Leisa Mererid Edwards
Dyddiad Geni: 16.07.1971
Man Geni: Rhuthun
Mam, actores, ymarferydd creadigol, awdures ac hyfforddwraig ioga, therapydd sain (gong) yw Leisa Mererid – fyddai’n disgrifio’i hun mewn tri gair fel person creadigol, caredig ac epenthetig.
O’r cychwyn cyntaf, roedd creadigrwydd a pherfformio yn dod yn naturiol i Leisa. Un o’i hatgofion cynharaf yn ferch ifanc oedd darllen straeon allan o Beibl Mawr Y Plant.
“Mae gen i gof cryf o eistedd gyda fy nghefn yn gynnes yn erbyn y rayburn yn y gegin, pan o’n i tua chwech neu saith mlwydd oed, yn darllen straeon allan o Beibl Mawr Y Plant. Ro’n i’n darllen ar goedd, ac yn adrodd y straeon (er nad oedd neb yn gwrando). Dw i’n cofio meddwl fod y Beibl yn llawn straeon egsotig ac yn llawn lluniau hudolus.”
Ar ôl gadael Coleg Rhyngwladol Jacques LeCoq yn Paris yn 1994, aeth Leisa i fyw i Lundain i fod yn aelod craidd o gwmni Theatr CLOD ENSEMBLE, cwmni oedd yn plethu cerddoriaeth fyw, symudiad a pherfformio. Y swydd iddi ei gwneud oedd rhan fechan yn y ffilm Bolan’s Shoes (2021). Mae wedi cael profiadau anhygoel ar hyd y daith, meddai – o waith theatr i raglenni teledu fel Amdani a Tipyn o Stad, ymhlith llawer mwy.
Gwyrth ioga
Roedd Leisa yn ffilmio’r gyfres deledu boblogaidd Tipyn o Stad pan gafodd y fraint o fod yn fam am y tro cyntaf.
“Ganwyd Martha yn 2006, a Mabon yn fuan wedyn yn 2007, gydag Efan yn dilyn yn 2010. Roedd natur cael teulu ifanc yn golygu bod gweithio fel actores yn dipyn mwy heriol. Roedd yr oriau yn hir ac anghymdeithasol, a bod i ffwrdd am gyfnodau hir yn anodd. Gyda chefnogaeth fy rhieni, mi wnes i lwyddo i barhau i actio tra roedd y plant yn ifanc, ond mi wnes i sylweddoli’n fuan iawn fod rhaid imi newid cwys a dod o hyd i waith fyddai’n fy ngalluogi i fod yna i’r plant yn ddyddiol. Yn ystod y cyfnod yma, mi wnes i ddechrau ymarfer ioga.”
Er nad oedd gan Leisa fwriad i fod yn hyfforddwraig ar y cychwyn, gan fod ioga wedi ei helpu gymaint i ymdopi gyda heriau bywyd – o fod yn fam sengl, ac yn ddiweddarach, drwy’r galar o golli ei rhieni – roedd hi’n teimlo’r ysfa i rannu’r hyn roedd wedi ei ddysgu gydag eraill, a dyna sut ddechreuodd ei gyrfa fel hyfforddwraig ioga. Cyhoeddodd ei llyfr cyntaf i blant, Y Goeden Yoga, yn 2019, ac yna ei hail lyfr, Y Wariar Bach, yn 2021. Mae’n gobeithio cyhoeddi ei thrydedd llyfr, Y Seren Yoga, yn 2025. Yn ddiweddar, mae wedi cymhwyso fel therapydd sain (gong).
“Wnes i erioed ddychmygu y byddwn yn gwneud y fath beth, ond rywsut roedd ehangu fy ngorwelion i’r cyfeiriad yma’n ddatblygiad naturiol o’r ioga. Dw i wedi bod yn mynd i sesiynau trochiad sain / gong baths yn lleol ers blynyddoedd, ac mae’r sesiynau yma wedi fy helpu i ryddhau tensiwn ar lefel gorfforol, feddyliol ac emosiynol.
“Gan fod yna neb yn cynnig y gwasanaeth yma drwy gyfrwng y Gymraeg, mi wnes i benderfynu hyfforddi, a dw i newydd gymhwyso gyda’r Royal College Of Sound Healing.”
GONGoneddus
“Enw fy menter newydd ydi GONGoneddus. Dw i’n cynnig sesiynau un i un neu i gyplau / ffrindiau mewn ystafell therapi bwrpasol yma yn y Felinheli. Opsiwn arall ydi dod i sesiwn grwp (gong bath), ac mi fydda i’n cynnal rhain yn fisol mewn amryw leoliadau. Y gobaith fydd mynd â GONGoneddus ar daith cyn hir, ac ymweld â chymuned fyddai’n hoffi derbyn y gwasanaeth yma drwy gyfrwng y Gymraeg. Dw i’n agored iawn i geisiadau!
“Dw i’n ymfalchïo yn y ffaith fy mod i’n gallu cynnig fy sesiynau drwy gyfrwng y Gymraeg, a dw i’n gwybod faint mae hyn yn ei olygu i’r rhai sy’n dod i fy sesiynau. Mae natur fy gwaith i yn holistaidd, felly dw i’n gweithio ar y person cyfan (yr haen gorfforol, emosiynol, feddyliol ac ysbrydol), ac mae iaith yn llawer mwy na chyfrwng i gyfathrebu – mae’n cynrychioli ein diwylliant a’n hunaniaeth ni, sef calon ein cenedl.”
Mi brynodd Leisa ei gong cyntaf flwyddyn yn ôl. Mae hi wedi dod o’r Almaen ac wedi ei gwneud allan o gymysgedd o fetelau – copr, nicel a sinc. Gong Symffonig ydi hi, sy’n golygu bod ganddi ystod eang iawn o sain.
“Mae hi’n cymryd oddeutu tri mis i dorri gong newydd i mewn cyn gall y sain ‘flodeuo’. Dw i’n rhyfeddu dro ar ôl tro at y synau gwahanol sy’n dod o’i chrombil, ac mae hi’n swnio’n wahanol, yn ddibynnol ar yr ‘egni’ sydd yn yr ystafell, a hefyd tymheredd yr ystafell.”
Cafodd ei hail gong ychydig dros fis yn ôl. Mae hon hefyd wedi’i gwneud o’r un metelau, ond yn wahanol i’r symffonig, mae hon wedi’i thiwnio i nodyn penodol, sef F. Gong blaned ydi hi, sy’n cynrychioli cylchdro’r ddaear o amgylch yr haul. Mae’r gong yma’n wych i ysgogi creadigrwydd, doethineb a datblygiad ysbrydol, ac mae’n help i liniaru iselder.
“Fy ngobaith yw buddsoddi mewn gong blaned haul y flwyddyn nesaf – ac mi fydd hon yn bwerus iawn i ddeffro hunan-werth, hunanhyder, grym cymhelliad ac i ddatblygu gweledigaeth gref.”
Diwrnod arall
Tasai Leisa yn cael treulio un diwrnod arall yng nghwmni unrhyw un, gyda’i mam a’i thad fyddai hynny, meddai.
“Am rodd fendigedig fyddai hynny! Mi faswn i’n mynd i gerdded efo Dad, yn ôl i ardal ei febyd, i Glyndyfrdwy, ac i’w gartref, Cwm Isaf. O’r fan honno mi fydden ni’n dringo tuag at chwarel Moelfferna, lle roedd taid yn gweithio. Mae yna olygfeydd bendigedig yma, ac mi fydden ni’n gwrando am gân y gog! Mi fydden ni’n siarad am yr hen ddyddiau, ei atgofion yn blentyn ac mi fydden ni’n cael picnic… brechdanau ŵy a fflasg o goffi drwy laeth! Roedd Mam yn caru’r haul. Felly mi fydden ni’n mynd i Aberdaron i gerdded ar y traeth. Mi fydden ni’n bwyta cranc ffresh ac yn siarad am bopeth…. ein breuddwydion, ein dyheadau, ein hofnau… Mi fyddwn yn dweud wrthi gymaint mae’r plant wedi tyfu a chymaint ryden ni’n ei cholli hi. Mi fydden ni’n gwylio’r haul yn machlud, ac yn aros y noson yn ngwesty Tŷ Newydd, yn gadael y ffenestri ar agor led y pen fel ein bod ni’n medru clywed sŵn y môr wrth i ni fynd i gysgu ac wrth i ni ddeffro.”