Fe gymrodd hi bedair blynedd i’r artist lleol Rubin Eynon greu cerflun efydd o Max Boyce, i ddathlu pen-blwydd y canwr hoffus yn 80 oed.

Fe gafodd y gwaith ei ddadorchuddio yn nhref Glyn-nedd ddydd Sadwrn diwethaf, a daeth cannoedd i ddiolch i gerddor sydd wedi bod yn gyfaill triw i’w gymuned. Yn eu plith roedd Prif Weinidog Cymru a sawl un o sêr tîm rygbi Cymru’r 1970au.