Y penwythnos yma mae Max Boyce yn dathlu hanner canrif o berfformio’i ganeuon chwedlonol gyda dwy noson yng Nghanolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd, a phob tocyn wedi ei werthu.

Fis nesa’ yn Galeri Caernarfon fe fydd Dafydd Iwan yn dathlu 40 mlynedd ers rhyddhau ‘Yma o Hyd’ gyda thair noson o ganu, ac eto mae pob tocyn eisoes wedi mynd.

Mae’r ddau Gymro eiconig yma yn 80 oed, cofiwch, ac yn brawf nad ydach chi byth yn rhy hen i rocio.