Sycamorwydden oedd honno hefyd. Ei hoff goeden.

Mae’n un o’r pethau sy’n synnu Iwan wrth iddo dyfu’n hŷn – y ffordd mae coed a phlanhigion a’r pethau bychain sy’n byw yn dawel, dawel yn hawlio eu lle yn ei atgofion. Y violas amhosib o goch ym morder bach gardd Taid. Y chwilod clust yn yr ardd, yn dal eu crafanc bychan yn arwrol fygythiol dros y pridd. Arogl ffres, gwyrdd y gonwydden yng nghefn yr ardd, a’r llecyn bach tywyll, preifat, hudol dan ei changhennau.