‘Neud Nid Deud’ – slogan gan y band Llwybr Llaethog, sticeri ar bolion lamp strydoedd Caerdydd ac wrth gwrs label recordiau Llwybr Llaethog. A nawr, rhaglen radio ar Radio Cymru gan yr awdur Llwyd Owen yn olrhain hanes Hip-Hop yn y Gymraeg. Does dim gair Cymraeg da am ‘genre’ – tydi dosbarth, ffurf, math, arddull, ddim cweit yn gweithio. ‘Style’ efallai yw arddull ond o leiaf rydan ni’n gwybod am beth rydan ni’n sôn.