Dw i wedi mwynhau cystadleuaeth Cwpan Rygbi’r Byd yn arw. Mae perfformiadau’r Cymry wedi bod yn wefreiddiol a’r canlyniadau – yn enwedig yn erbyn Awstralia – yn drawiadol. Be fuaswn yn rhoi i weld Jac Morgan yn codi cwpan euraidd Webb Ellis yn uchel i’r awyr… O Gymru!