Mae nifer o gynhyrchion plastig untro wedi cael eu gwahardd rhag cael eu cyflenwi yng Nghymru o heddiw (dydd Llun, Hydref 30).
Daw hyn yn dilyn ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i “ymgorffori ein hymateb i’r argyfwng hinsawdd a natur ym mhopeth a wnawn”.
Pwrpas y ddeddf newydd yw lleihau’r llif o lygredd plastig sy’n llifo i’n hamgylchedd, trwy wahardd rhai cynhyrchion plastig untro rhag cael eu cyflenwi.
Dywed Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd, fod y ddeddf yn rhan o ymateb Llywodraeth Cymru i’r argyfyngau hinsawdd a natur, a’u bod nhw’n “adeiladu ar y momentwm mae cymunedau ledled Cymru wedi’i greu trwy benderfynu mynd yn ddi-blastig, ymwrthod â’r diwylliant ‘taflu pob peth’ a mynd i’r afael â sbwriel”.
Mae’r cyhoedd wedi bod yn bositif eu cefnogaeth i’r gwaharddiad, meddai’r Llywodraeth, gyda thros 87% o’i blaid.
Ymhlith yr eitemau sydd bellach wedi’u gwahardd mae:
- platiau plastig untro
- cwpanau plastig untro
- troellwyr diodydd plastig untro
- cwpanau wedi’u gwneud o bolystyren allwthiedig ymestynedig neu ewynnog
- cynwysyddion bwyd tecawê wedi’u gwneud o bolystyren allwthiedig ymestynedig neu ewynnog
- ffyn balŵn plastig untro
- ffyn cotwm coesyn plastig untro
- gwellt yfed plastig untro
Yn ôl Julie James, “dyma’r cam cyntaf i ddileu’r angen i ddefnyddio a gwerthu plastig untro diangen yng Nghymru”.
“Rydym wedi ymrwymo i ddileu plastig untro a’n cam nesaf fydd gwahardd bagiau plastig untro, caeadau polystyren ar gyfer cwpanau a chynwysyddion bwyd a chynhyrchion wedi’u gwneud o blastig ocso-fioddiraddadwy a fydd yn digwydd cyn diwedd tymor y Senedd,” meddai.
“Mae llawer o fusnesau ledled Cymru eisoes wedi mabwysiadu’r newid cyn y gwaharddiad trwy newid i gynhyrchion y gellir eu hailddefnyddio neu gyfnewid eu plastig ar gyfer dewisiadau amgen cardbord neu bapur lle nad yw cynhyrchion y gellir eu hailddefnyddio yn addas.
“Rydyn ni hefyd yn edrych ar weips gwlyb plastig sy’n gallu rhwystro draeniau, cyfrannu at lifogydd ac ychwanegu ffibrau microblastig i’n hamgylchedd.
“Os byddwn oll yn dilyn dull ‘Tîm Cymru’ ac yn ceisio ailddefnyddio, ailgylchu ac atgyweirio mwy, bydd yn helpu i greu dyfodol gwyrddach i genedlaethau’r dyfodol.”
Plaid Cymru’n cefnogi’r gwaharddiad
Mae Plaid Cymru’n dweud eu bod nhw’n cefnogi’r gwaharddiad.
Yn ôl Delyth Jewell, llefarydd newid hinsawdd y blaid, maen nhw “eisiau i genedlaethau’r dyfodol etifeddu daear lanach”.
“Felly mae’n hanfodol ein bod ni’n gwyrdroi ein dibyniaeth ar blastigion sy’n tagu ein daear a hyd yn oed yn mynd i mewn i’n llif gwaed,” meddai.
“Tra bod y cyfyngiadau newydd ar blastigion untro i’w croesawu, a bod mawr eu hangen, mae angen i ni fynd ymhellach fyth ac yn gynt er mwyn gwaredu’n hunain rhag y pla plastig sy’n llygru ein cefn gwlad, ein moroedd a’n traethau.
“Mae gennym ni gyfle yma i sicrhau y gall ein busnesau arwain y ffordd, ac i Gymru fod yn arweinydd byd o ran ailgylchu, felly mae angen i ni ddarparu’r gefnogaeth gywir a’r cymhelliant i fusnesau fel y gallan nhw chwarae rôl.
“Os ydyn ni’n buddsoddi mewn ymchwil a datblygu, gall busnesau Cymru fod ar flaen y gad wrth ddylunio, cynhyrchu a gwerthu dewisiadau amgen i blastig untro.
“Mae hi hefyd yn hanfodol ein bod ni’n gwneud y newidiadau hyn mewn ffordd deg nad yw’n cosbi aelwydydd tlotach.
“Mae angen i ni ei gwneud hi’n hawdd i bobol wneud dewisiadau mwy cynaliadwy pan ydyn ni’n byw ein bywydau – oherwydd mae gennym ni oll ran hanfodol i’w chwarae wrth gyrraedd targedau gwastraff net a sero net.”