Wrth i Galan Gaeaf agosáu, mae Llwybr Arfordir Cymru wedi casglu rhai o’r straeon arswyd sy’n gysylltiedig ag arfordir y wlad.
O Rosili i Fiwmares, mae straeon i oeri’r gwaed ledled cymunedau morwrol Cymru.
Dyma saith stori ddychrynllyd am rai fu’n cerdded y Llwybr cyn heddiw…
1. Y Parchedig o Hen Reithordy Rhosili
Yn uchel uwchben traeth Rhosili ym Mhenrhyn Gŵyr mae’r Hen Reithordy. Er iddo gael ei adeiladu yn y 1700au, erbyn y 1850au daeth yr adeilad yn gartref i’r Parchedig Lucas, oedd yn adnabyddus am farchogaeth ei geffyl ar draws y traeth i bregethu ym mhlwyfi Rhosili a Llangynydd.
Heddiw, mae pobol leol yn dal i sôn am ei bresenoldeb, a llawer yn credu bod ysbryd y Parchedig i’w weld o hyd yn croesi’r tywod, o bryd i’w gilydd, ar ei geffyl drychiolaethol.
Bellach yn llety gwyliau, mae llawer o ymwelwyr â’r Hen Reithordy yn dweud eu bod nhw wedi gweld a chlywed pethau rhyfedd, gydag adroddiadau am ffigurau yn y coridorau a lleisiau dirgel.
2. Dinas goll Cantre’r Gwaelod
Mae llên gwerin Cymru’n sôn digon am Gantre’r Gwaelod, dinas goll aeth o’r golwg dan y dŵr ar hyd arfordir gorllewinol y wlad.
Cafodd y tir chwedlonol ei warchod rhag y môr gan gatiau fyddai’n agor yn ystod y llanw isel i ddraenio’r dŵr, a’u cau eto wrth i’r llanw ddychwelyd.
Ond bu trychineb un noson yn sgil esgeulustod Seithennyn, y gwyliwr nos, oedd wedi syrthio i gysgu ar ôl yfed gormod o fedd.
Er i’r Brenin a rhai o’r trigolion lwyddo i ddianc, dywedir bod Cantre’r Gwaelod wedi ildio i’r môr y noson honno, a bod dros hanner ei boblogaeth wedi colli eu bywydau.
Mae’r chwedl yn dal i gydio heddiw, ac mewn cyfnod o berygl neu pan fo cwch mewn trallod, mae clychau swynol yr eglwys yn atseinio o gwmpas Bae Ceredigion, yn ôl y sôn.
3. Sibrydion am smyglwyr a gweithion ym Mhwll-du
Mae rhai yn dweud bod modd clywed sibrydion dirgel ar nosweithiau llonydd a lloergan ym Mhwll-du — cymysgedd o leisiau dynion a charnau ceffylau ar hyd y grib.
Mae lle i gredu bod y synau’n adleisiau smyglwyr, fu’n llafurio dan orchudd y nos i gludo brandi a thybaco anghyfreithlon o’r lan i Gwm Llandeilo Ferwallt a Lôn y Smyglwyr.
Ond mae’r Ladi Wen yn aflonyddu’r ardal hefyd. Mae hanesion am ei phresenoldeb yno’n dyddio’n ôl i ganol y 1800au, pan ddechreuodd grwydro drwy’r cwm am y tro cyntaf.
Mae’r chwedl yn nodi ei bod hi’n bosib mai merch ifanc oedd yn gweini yn nhafarn y Beaufort oedd hi, a’i bod hi wedi cymryd ei bywyd ei hun a bywyd ei phlentyn.
4. Bwganod Carchar Biwmares
Roedd Carchar Biwmares, sydd dros 190 oed, yn gartref i lu o droseddwyr ar un adeg.
Mae’r carchar yn adnabyddus am ei driniaeth greulon tuag at garcharorion, a chafodd ambell un eu dienyddio yno.
Un o’r rhain oedd Richard Rowlands, yn 1862, ac yntau wedi’i ddedfrydu i farwolaeth am lofruddio ei dad-yng-nghyfraith.
Daliodd i ddweud ei fod yn ddieuog hyd y diwedd, a dywedir iddo felltithio cloc yr eglwys gyfagos o’r crocbren fel na fyddai byth yn dweud yr amser cywir. Yn ôl sôn, dydy’r cloc dal ddim ar amser.
5. Lleian ddiwyneb Llangrannog
Dydy’r un ymweliad ysgol â Llangrannog yn gyflawn heb adrodd hanes ysbryd preswyl y safle — y lleian dywyll.
Dywedir iddi grwydro’r neuaddau ar ôl iddi dywyllu, gan chwilio am blant sydd ddim yn eu gwelyau ar ôl i’r goleuadau ddiffodd.
Mae rhai hyd yn oed yn dweud ei bod hi’n hofran uwchben ymwelwyr sy’n cysgu, gan glymu tafodau’r rhai sy’n deffro fel na allan nhw sgrechian.
6. Chwedl Gwrach y Rhibyn
Mae Gwrach y Rhibyn yn ffigwr yn llên gwerin Cymru sy’n gweithredu fel rhagrybudd marwolaeth.
Mae’r wrach yn ymddangos fel creadur grotésg, gyda gwallt du, dannedd du, breichiau a choesau esgyrnog, croen gwelw, ac adenydd lledr.
Yn aml, caiff ei chysylltu â’r arfordir neu ddyfroedd, ac mae hi’n mwynhau dychryn dioddefwyr wrth stelcian yn ddistaw ger y traeth.
Unwaith y byddan nhw wyneb yn wyneb, mae hi’n dangos ei hun ac yn rhoi sgrech iasoer.
7. Tywysog Cymreig a’i long annaearol
Mae cerdd Gymraeg o’r bymthegfed ganrif yn adrodd sut yr arweiniodd y Tywysog Cymreig Madoc ab Owain Gwynedd lynges o ddeg llong i ‘ddarganfod’ America ar ddiwedd y 1100au — ganrifoedd lawer cyn i Christopher Columbus lansio ei long yn 1492.
Yn ôl yr hanes, dychwelodd y Tywysog Madog i Gymru gyda hanesion gwych am ei anturiaethau, gan berswadio eraill i ddychwelyd i America gydag e rai misoedd yn ddiweddarach.
Fodd bynnag, ar ôl dechrau hwylio, bu trychineb dirybudd chafodd y criw mo’u gweld byth eto… nes i long rithiol gael ei gweld yn Abergele. Mae tystion yn honni iddyn nhw weld llong enfawr gyda sawl dyn, nid yn annhebyg i Lychlynwyr, arni, ond diflanodd eiliadau wedyn.
Pa straeon arswyd sydd i’w clywed yn eich ardal chi, tybed?