Mae Gŵyl Amgueddfeydd Cymru yn dychwelyd ar gyfer y gwyliau hanner tymor yr wythnos hon (dydd Sadwrn, Hydref 28 tan ddydd Sul, Tachwedd 5), gydag wythnos o ddigwyddiadau arbennig i ddathlu hanes a diwylliant amrywiol y wlad.

Mae dros 45 o amgueddfeydd mawr a bach ledled Cymru yn cymryd rhan yn yr ŵyl yr wythnos hon, gan gynnig nifer o weithgareddau cyffrous ac amrywiol, am ddim, i deuluoedd yn bennaf – o ‘rêf hinsawdd’ yn Rhaeadr i weithdy gwneud diodydd iachusol yng Ngheredigion, ac adrodd straeon yng Nghaerdydd.

Bydd ‘Her Pasbort | Gŵyl Amgueddfeydd Cymru’ newydd cyffrous hefyd, fydd yn ei gwneud yn ofynnol i ymwelwyr a’r amgueddfa ymweld â chwe amgueddfa o’u dewis hyd at fis Ebrill y flwyddyn nesaf.

Unwaith fydd pob ymweliad wedi’i gwblhau, gall deiliaid pasbort gymryd rhan mewn raffl arbennig i ennill dau docyn diwrnod yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i’r teulu a chlustffonau Bluetooth diwifr.

Yn y cyfnod cyn yr ŵyl, cafodd Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth, gyfle i ymweld ag Amgueddfa Firing Line yng nghastell Caerdydd.

Amgueddfa filwrol sy’n adrodd hanes Gwarchodlu Dragŵn 1af y Frenhines a’r Cymry Brenhinol yw Firing Line, sy’n un o bedair amgueddfa filwrol achrededig yng Nghymru, ac mae’n cymryd rhan yng Ngŵyl Amgueddfeydd Cymru.

Bydd llyfryn gweithgareddau Calan Gaeaf newydd sbon ar gael yn y rhan fwyaf o amgueddfeydd sy’n cymryd rhan, gan alluogi ymwelwyr ifanc i edrych ar hanes Calan Gaeaf yng Nghymru ac ar draws y byd gyda gemau a phosau.

Mae Gŵyl Amgueddfeydd Cymru yn bosibl drwy gyllid gan Lywodraeth Cymru.

Mae’r ŵyl yn cael ei chynnal gan 45 a mwy o amgueddfeydd ledled Cymru, fel rhan o fenter barhaus i gynyddu cyhoeddusrwydd a nifer yr ymwelwyr ar gyfer amgueddfeydd unigol.

‘Arddangos amrywiaeth’

“Mae’r ŵyl yn gyfle gwych i ni dynnu sylw at gyfraniadau’r sector amgueddfeydd lleol ac arddangos amrywiaeth amgueddfeydd ledled Cymru,” meddai Dawn Bowden.

“Gyda hanner tymor yn digwydd yr wythnos hon, mae digon o gyfleoedd i bobol ddarganfod beth sydd gan eu hamgueddfa leol i’w gynnig.”

Mae ei sylwadau wedi’u hategu gan Rachael Rogers o Ffederasiwn Amgueddfeydd Cymru.

“Mae’r ŵyl yn gyfle gwych i arddangos y gwaith anhygoel a wneir gan amgueddfeydd ledled y wlad,” meddai.

“Mae ein hamgueddfeydd nid yn unig yn cynnig cyfle i ymwelwyr ddysgu am ein treftadaeth Gymreig, ond maen nhw hefyd yn hyrwyddo’r Gymraeg, ac yn cynnig digwyddiadau am ddim mewn lle cynnes a chroesawgar sy’n bwysicach nag erioed.”