Daeth oddeutu 100,000 o bobol ynghyd ym Madrid ddoe (dydd Sul, Hydref 30) i orymdeithio a phrotestio yn erbyn amnest ar gyfer ymgyrchwyr annibyniaeth i Gatalwnia.

Un sy’n cefnogi’r amnest yw Pedro Sánchez, Prif Weinidog dros dro Sbaen.

Ond cafodd y brotest gefnogaeth y pleidiau asgell dde, gan gynnwys Vox, wrth iddyn nhw alw cefnogaeth Sánchez yn “fradwrus”, gan awgrymu ei fod yn agor y drws i annibyniaeth yn y dyfodol.

Mae Santiago Abascal, arweinydd Vox, wedi cyhuddo’r Sosialwyr o fod eisiau arwain gwrthryfel Catalwnia oddi mewn i Lywodraeth Sbaen, gan fynnu bod Sbaen “mewn perygl a than fygythiad” gan y Sosialwyr, ac mai Sánchez yw’r arweinydd “mwyaf llwgr” yn hanes Sbaen.

Aeth Alberto Núñez Feijóo, arweinydd Plaid y Bobol, i brotest arall ym Malaga, lle bu’n annog aelodau’r Blaid Sosialaidd sy’n gwrthwynebu’r amnest i leisio’u barn, gan ddweud “pe bai’r ychydig sy’n codi’u lleisiau’n penderfynu peidio gwneud dim, yna byddan nhw’n cyfrannu cymaint â’r rheiny sy’n aros yn dawel a’r rheiny sy’n cymeradwyo”.

Ond yn ôl Sánchez, byddai amnest yn ffordd o “wella clwyfau” ac o feithrin “cyd-fyw” yng Nghatalwnia.

Mae amnest yn rhagofyniad ar gyfer unrhyw drafodaethau rhwng y Sosialwyr a phleidiau sydd o blaid annibyniaeth i Gatalwnia yn y gobaith o sicrhau mai Sánchez fydd prif weinidog parhaol nesaf Sbaen.