Ddydd Iau (Hydref 26), cafodd ffigurau gwrandawyr radio eu cyhoeddi gan Rajar, y corff sy’n cynnal ymchwil i gynulleidfaoedd radio.
Roedd y ffigurau yn y tabl yn crynhoi’r chwarter diwethaf yn cynnwys Radio Cymru, ac yn eu cymharu â’r ffigyrau ar gyfer 2022 a 2021, gan dynnu sylw at y gostyngiad sylweddol dros y ddwy flynedd – o 164,000 i lawr i 131,000 ac i lawr eto i 102,000.
Ar yr olwg gyntaf, mi all hyn ymddangos fel bod yr orsaf yn mynd yn llai poblogaidd bob blwyddyn, ac felly eu bod nhw wedi colli gwrandawyr mewn rhyw ffordd barhaol.
Fodd bynnag, erbyn meddwl, mae nifer o ffactorau i’w hystyried, ac mae’n werth ystyried ffigurau fel hyn mewn cyd-destun ehangach na dim ond tair blynedd, yn enwedig tair blynedd hynod fel y rhai dan sylw yma.
2005 – 2023
Mae fformat y tablau ar wefan Rajar wedi newid yn sylweddol dros y blynyddoedd, ond gan gymryd bod y ffigurau wedi’u casglu yn yr un ffordd dros yr un cyfnod, fwy neu lai, dyma ddarlun bras o’r ffigurau cyrhaeddiad wythnosol:
2023 – 102,000
2022 – 131,000
2021 – 164,000
2020 – 119,000
2019 – 109,000
2018 – 124,000
2017 – 126,000
2016 – 114,000
2015 – 108,000
2014 – 106,000
2013 – 140,000
2012 – 125,000
2011 – 134,000
2010 – 153,000
2009 – 145,000
2008 – 146,000
2007 – 143,000
2006 – 153,000
2005 – 165,000
Fel y gwelwch chi, mae ffigyrau 2023 yn hynod o isel, ond mae ffigurau 2021 hefyd yn hynod o uchel. Dim ond unwaith yn ystod y 19 mlynedd diwethaf mae’r ffigurau cyrhaeddiad gwrandawyr wedi bod mor uchel, ac mi roedd hynny ’nôl yn 2005, pan oedden nhw 1,000 yn uwch ar 165,000.
Mae tuedd i’r ffigurau amrywio o flwyddyn i flwyddyn, gan ostwng yn raddol rhwng 2005 a 2008, a chynyddu ychydig bach wedyn, cyn gostwng eto a tharo lefelau isel yn 2014 – 106,000 – sydd ddim ond 4,000 yn fwy o wrandawyr na’r lefel bresennol.
Mae yna duedd ddiddorol iawn rhwng 2019 a 2023, yn gostwng o 109,000 i 102,000, sy’n wahaniaeth o ddim ond 7,000 o gymharu â’r gwahaniaeth o 62,000 rhwng 2021 a 2023, a 29,000 rhwng 2022 a 2023.
Yr amrediad dros yr holl flynyddoedd yw 63,000 (2005-2023), felly yn hynny o beth, nid yw’r 62,000 o wahaniaeth rhwng 2021 a 2023 yn edrych allan o’i le, heblaw am y ffaith ei fod wedi digwydd dros amser mor fyr.
Beth all achosi amrywiaeth sylweddol fel hyn, tybed? A oes yna unrhyw newidynnau i’w hystyried? A wnaeth unrhyw beth anghyffredin ddigwydd rhwng 2021 a 2023? A pham roedd y ffigyrau gymaint yn is yn ystod 2019 a 2020?
Y pandemig a’r cyfnodau clo
Un esboniad posib fyddai’r ffaith ein bod ni newydd fyw trwy bandemig, ac yn hynny o beth nifer o gyfnodau clo lle na fu’n bosib mynd allan i’r dafarn, nac i unman wir, heblaw am y siopau i ‘mofyn bwyd wythnosol.
‘Nôl yn 2019, roedd rhan sylweddol o’r boblogaeth yn gweithio oddi cartref am ran helaeth o bob diwrnod. Ac er bod teithio yn y car yn cynnig cyfle da i wrando ar y radio, wrth gwrs, roedd y ffigurau wedi cyrraedd lefel gymharol isel – 109,000.
Ond ryw dri mis i mewn i’r flwyddyn 2020, daeth ryw sôn am salwch newydd o’r enw Covid-19, ac yn araf bach y daethom i ddeall fod hyn yn mynd i gael effaith sylweddol ar ein bywydau; erbyn diwedd y flwyddyn, roedd y rhan fwyaf ohonom adref ac yn talu llawer iawn mwy o sylw i’r cyfryngau, gan gynnwys y radio.
Erbyn 2021, roedd llawer iawn ohonom yn gwrando ar y radio fel ffordd o gadw cysylltiad efo’r byd tu hwnt i’n tai, a’r gymdeithas o siaradwyr Cymraeg yn gyffredinol.
Yn ystod 2022, fe wnaeth pethau ddechrau dychwelyd i’r ‘arfer’ neu o leiaf y ‘normal newydd’, wrth i ni ddychwelyd yn ofalus i fynychu digwyddiadau, a hyd yn oed jyst atgoffa ein hunain sut deimlad oedd hi i fynd am baned mewn caffi, a chwrdd â ffrindiau.
Erbyn dechrau’r flwyddyn hon, roedd yna wledd o ddigwyddiadau wedi’u trefnu ac, yn wir, i rai ohonom, mae dewis pa ddigwyddiadau i’w mynychu wedi mynd yn bach o strach!
Cerddoriaeth a phodlediadau
Hyd yn oed yn y car bellach, mae’r dewis rhwng y radio a’r amrywiaeth o CDs ac albymau newydd yn achosi mwy o benbleth, a rhai ohonom wedi bod yn y siopau bach Cymraeg dipyn mwy, ac felly wedi prynu albymau Pedair a Bwncath.
Yn ogystal, mae’n debyg fod y wledd newydd o bodlediadau wedi effeithio ar gyrhaeddiad gwrandawyr radio, wrth i rai ohonom ddarganfod Y Pod, Spotify a.y.b., a hyd yn oed dechrau ein podlediadau ein hunain!
Fel dywedodd fy nghyd-golofnydd Malachy Edwards yn ddiweddar, mae’n gyfnod da ym myd y podlediadau Cymraeg, gyda digon o gynyrchiadau difyr ac o ansawdd uchel ar gael. Ac mae arferion gwrando rhai ohonom rŵan yn ffafrio podlediadau uwchlaw’r radio.
Ond o ystyried y gystadleuaeth o du’r podlediadau niferus, a’r ffaith ein bod ni i gyd wrthi’n dathlu diwedd y cyfnodau clo drwy fynd allan mwy nag y buon ni cyn y pandemig, efallai nad yw’r ffigwr o 102,000 o gyrhaeddiad gwrandawyr gymaint â hynny o syrpreis?
Mae hyn oll yn fy atgoffa o ateb Barack Obama i Mitt Romney yn ystod y drafodaeth am y gostyngiad mewn llongau yn y llynges Americanaidd rhwng 1916 a 2012, pan atebodd hefo’r ymadrodd ddaeth yn meme: “Oes, ac mae gyda ni hefyd lai o geffylau a bidogau oherwydd bod natur milwrol wedi newid”.
Mae’n rhaid bod yn ofalus wrth ystyried ffigurau fel hyn, gan ystyried y cyd-destun ac unrhyw newidynnau, yn enwedig rhai hynod megis pandemig a chyfnodau clo!