Yn ddiweddar cawsom ganlyniadau’r British Podcast Awards lle cipiodd podlediad Cwîns y fedal aur yn y categori Cymraeg a derbyniodd Yr Hen Iaith a Sgwrsio y gwobrau arian ac efydd. Llongyfarchiadau mawr iddyn nhw gyd. Mae’n gyfnod da ym myd y podlediadau Cymraeg gyda digon o gynyrchiadau difyr ac o ansawdd uchel ar gael.

 

Dw i’n wrandäwr brwd o bodlediadau ac yn gwrando arnyn nhw lawer fwy nac ar radio byw. Ymhlith fy ffefrynnau dwi’n cynnwys podlediad Llwyd Owen a Leigh Jones, Ysbeidiau Heulog sy’n mynnu cael gwybod beth yw hoff gaws pob un o’u gwesteion a sawl gratwyr caws sydd ganddynt yn y tŷ!

 

Dw i ddim yn gwybod y gwahaniaeth rhwng fy nghynghanedd draws o fy nghynghanedd groes, ond yn hoff o Clera sy’n cynnwys y beirdd Aneirin Karadog ac Eurig Salisbury efo gwestai yn trafod barddoniaeth mewn modd difyr a ffraeth. Os oeddech chi erioed yn chwilfrydig am beth mae beirdd yn siarad amdano ymhlith ei gilydd, dyma’r podlediad i chi!

 

A dim ond wedi i mi glywed podlediad arall, Yr Hen Iaith gyda Richard Wyn Jones a Jerry Hunter, wnes i ddeall ystyr y teitl Clera. Ym mhennod 24, mae’r athro Jerry Hunter yn egluro defnydd y gair ‘clera’ gan Dafydd ap Gwilym yn ei gerdd ‘Niwbwrch’  sef, beirdd yn mynd ar gylch o gwmpas y wlad i ganu mawl am lety a rhoddion.

 

Llu mawr o bob lle a’i mawl:

Lle diofer i glera,

Lle cywir dyn, lle ceir da;

 

Mae ystod eang o bodlediadau ar gael yn y Gymraeg. I ystyried teitlau ac amcan rhai o’r podlediadau ar wefan ypod.cymru, dw i’n poeni braidd am isymwybod y Cymry a’r hyn mae’n awgrymu amdanom: OfnCollir PlotGwrachod HeddiwUn Noson Olaf ac Yr Apocalyps Nawr!

 

Cefais y cyfle bythefnos yn ôl i gymryd rhan fel gwestai efo Guto Dafydd ar bodlediad Caru Darllen gyda Mari Siôn yn cyflwyno. Mae fformat y podlediad yn teimlo llawer mwy anffurfiol na’r radio ac yn tueddu cynnig fwy o amser i breblan yn hamddenol ar bwnc. Yn bennaf gwnaethom drafod hunangofiannau ac hunanffuglen yn y Gymraeg yn ogystal â chyfrolau newydd ein hunain. Cerwch draw i weld beth rydych chi’n feddwl!

 

Hoffwn sôn mwy am bodlediad Yr Hen Iaith gan fy mod i wedi bod yn gwrando arno yn rheolaidd. Mae’n rhyw gyfuniad o sgwrs rhwng ffrindiau, gwers academaidd rhwng athro a disgybl a thrafodaeth ddwys am lenyddiaeth Cymraeg, a hynny mewn ffordd sydd yn hygyrch i bawb.

Ar yr aelwyd roedd gennym gopi o The Oxford Book of Welsh Verse ar y silff – casgliad o gerddi a ysgrifennwyd yn y Gymraeg. Pob hyn a hyn buaswn yn agor y llyfr a cheisio gwneud synnwyr o’r cerddi canoloesol, ond heb fawr o lwyddiant. Nid yw’n cymryd llawer o Gymraeg i gydnabod alaeth Gruffudd ab yr Ynad Coch yn ei gerdd ‘Marwnad Llywelyn ap Gruffudd’ ond ym mhennod 22 – ‘Calon Oer dan Fron o Fraw’ lwyddodd y pod i agor y gerdd fyny i mi gael ei deall yn iawn am y tro cyntaf. Dw i’n teimlo fy mod i wedi dysgu llawer gan y pod am ein llên ac mae wedi ysbrydoli fi i ddysgu mwy a buaswn yn argymell chwi ddarllenwyr i roi cynnig arni.

Ysgrifennwyd y penillion canlynol am ddiwedd y byd wedi marwolaeth Llywelyn ein Llyw Olaf:

 

Poni chredwch-chwi i Dduw, ddyniadon ynfyd?

Poni welwch-chwi’r byd wedi’r bydiaw.

 

Fel mae teitlau’r podlediadau yn tystio, mae’r meddwl apocalyptaidd Cymraeg gyda ni o hyd. Gan ragweld bod diwedd y byd gerllaw, rwyf am ddiolch i’n podledwyr am oleuo ein dyddiau gyda’u gwaith a darparu ysbeidiau heulog yn ystod y cyfnod ansicr hwn.