Ers dechrau’r ganrif y brif frwydr wleidyddol yn yr Alban fu honno rhwng yr annibynwyr a’r undebwyr.
Ar un ochr, yr SNP (a’r Blaid Werdd, erbyn hyn). Ac ar yr ochr arall, y blaid Lafur a’r Ceidwadwyr.
Yr hyn mae canlyniad Rutherglen a West Hamilton yn ei ddatgelu yw bod y frwydr honno bron ar ben. Mae’r SNP yn colli.
Nid yn unig mae’r blaid mewn cul-de-sac go dywyll o ran ei gallu i gynnal refferendwm (diolch i benderfyniad y goruchaf lys nad oes hawl ganddynt i wneud hynny) ond hefyd mae etholwyr yr Alban yn prysur sylweddoli mor iwsles ac eithafol yw’r blaid.
Dyma droi at yr undebwyr, felly, a dewis y blaid Lafur. Yn rhannol gan fod y Ceidwadwyr hefyd braidd yn iwsles – ond hefyd gan fod is-etholiad yn gyfle i roddi cic i ba bynnag blaid sydd wrthi’n llywodraethu yn San Steffan.
Heblaw am anallu’r SNP i gynnal refferendwm, beth arall sydd wedi arwain at y cwymp o ran y gefnogaeth i’r blaid?
Wel…ble i ddechrau?!
Beth am Nicola Sturgeon? Mae’r honiadau niferus amdani hi, ei gŵr, ac eraill, wedi bod yn ergyd ddifrifol i’r blaid. Y sleaze. Y camper-van. A’r defnydd aneglur o’r £666,000 a godwyd ganddynt ar gyfer ymgyrch annibyniaeth.
Difyr oedd jôc Rishi Sunak amdani, wrth iddo annerch cynhadledd ei blaid. Sef:
‘Nicola Sturgeon wanted to go down in the history books as the woman who broke up our country – but it now looks like she may go down for very different reasons.’
Ond yn waeth na hynt a helynt Nicola, yw polisïau’r SNP – a pherfformiad di-fflach arweinydd newydd y blaid, Humza Yousaf.
Nid yw etholwyr yr Alban yn ffôl. Maent wedi gorfod dioddef obsesiwn Humza o ran ideoleg rhywedd a’i ddeddfu haearnaidd ac anrhyddfrydol megis yr Hate Crime Bill (sy’n galluogi heddlu’r Alban i’ch arestio am drafod, yn eich cartref, materion megis hawliau menywod i gystadlu mewn ras – heb orfod cystadlu yn erbyn menyw oedd yn arfer bod yn ddyn).
Maent hefyd yn talu mwy o drethi yn yr Alban na’r gweddill ohonom – ac mae Humza am godi’r bil ymhellach.
Ac nid yw’r etholwyr wedi anghofio ffiasgo fferis Ferguson Marine. Yr oedi o bum mlynedd, y costau’n treblu hyd at £360miliwn – a dim golwg o’r ddwy fferi newydd!
Yn ddiweddar, mae gwrthwynebiad yr SNP i ddrilio am nwy ac olew yn Rosenbank hefyd wedi colli ambell i bleidlais iddynt, wrth i etholwyr gytuno bod dal angen olew arnom – ac os na ddaw o’r Alban, fe ddaw o rhywle arall – ond heb greu’r holl swyddi gwych i drigolion y wlad. Yn y cyfamser, mae Anas Sanwar (arweinydd Llafur yr Alban) o blaid y datblygiad.
Mae’r SNP wedi bod mewn trwmgwsg – bron heb ragweld y drychineb wleidyddol sydd nawr yn eu hwynebu. Adeg etholiad 2019 roedd yr hyfryd Jeremy Corbyn ymhell i’r chwith o’r SNP – ac yn indy-curious yng nghyswllt yr Alban. Erbyn hyn, fodd bynnag, mae Llafur yr Alban wedi symud i’r canol-dde – gan fynd â’r etholwyr gyda nhw.
Un peth arall ddaeth yn amlwg yn Rutherglen oedd nad yw annibyniaeth, erbyn hyn, yn flaenoriaeth i nifer helaeth o bleidleiswyr y wlad (sy’n helpu egluro cwymp cefnogaeth i’r SNP yn Rutherglen, o 44% i 27%).
Plaid Cymru a’r loons
Os yw’r awydd am annibyniaeth i’r Alban yn dal i edwino, ni fydd yn syndod os daw creu brwdfrydedd dros yr achos yng Nghymru yn anoddach.
Ac er yr holl syniadau call a diddorol a drafodwyd gan Rhun ap Iorwerth yn ei araith i gynhadledd Plaid Cymru yn Aberystwyth, fe fydd ei ymrwymiad i’r agenda annibyniaeth yn ei osod, yn nhyb gormod o bobl, ymhlith y garfan o swivel-eyed loons.
Yr SNP, wrth gwrs, sydd wedi galluogi’r Ceidwadwyr i aros mewn grym yn San Steffan, wedi iddynt gipio 40 o 41 o seddi’r blaid Lafur yn yr Alban 2015 – a’u cadw yn 2019. Wrth iddynt golli eu hygrededd a’u grym, ac yn dilyn canlyniad is-etholiad Rutherglen, rhagwelir y bydd Llafur yn ennill hyd at 42 o seddi’r Alban yn etholiad cyffredinol 2024, gan adael chwe sedd i’r SNP. Llawer haws, wedyn, fydd taith Keir Starmer i Downing Street.