Mae tîm pêl-droed dynion Cymru yn ôl yn Wrecsam yr wythnos yma am y tro gyntaf ers 2019. Bydd hi’n hamddenol iawn i yrru nôl ac ymlaen am awr ar yr A55 am unwaith yn lle strapio mewn am naw awr ar yr A470. Geith y daith ddiflas yna ddisgwyl tan ddydd Sul.

Fel rhywun gafodd ei fagu yng Nghaerdydd, rydw i wedi profi’r daith i’r gogledd i wylio gemau Cymru hefyd. Roedd fy nhaith gyntaf i Wrecsam yn un o fy hoff atgofion o fy nyddiau cynnar yn gwylio’r tîm cenedlaethol.