Ar ôl pythefnos o fyw yn Abertawe yn gweithio ar y sioe Baba Joon (cyd-cynhyrchiad rhwng Grand Ambition a The Other Room Theatre sy’n agor yn theatr y Grand ddydd Mawrth nesaf), fe es i nôl gartre i Lewisham am y penwythnos. Fe wnes i fy holl hoff bethau ‘lleol’ i’w gwneud mewn 24awr! Nawr, pryd ydych chi’n meddwl am Lundain, mae’n anodd meddwl byse chi’n gallu cael teimlad ‘pentrefol’ a hiraeth sydd nawr yn gallu bod yr un mor bwerus ag rwy’n teimlo tuag at Fachynlleth, o ble rwy’n dod y