Mae rhybudd wedi cael ei roi i gefnogwyr Cymru sy’n teithio i brifddinas Armenia, Yerevan, ar gyfer gem bêl-droed dros y penwythnos.
Daw wedi i Lysgenhadaeth Cefnogwyr Cymru rannu neges ar X yn dweud bod cefnogwraig wedi bod mewn “digwyddiad difrifol” mewn cefn tacsi yn y brifddinas nos Iau (16 Tachwedd).
Dywedodd bod y gefnogwraig ar ei ffordd adref o far poblogaidd o’r enw Beatles yng nghanol y ddinas pan stopiodd gyrrwr y tacs mewn lle tawel a gofyn am gymwynasau rhywiol fel taliad.
Fe wnaeth y fenyw “lwyddo i ddod allan o’r tacsi yn ddianaf ond yn ofnus iawn,” medd llefarydd o Lysgenhadaeth Cefnogwyr Cymru.
Bydd y llysgenhadaeth yn dweud wrth yr heddlu am y digwyddiad i’r heddlu, ac wrth lysgenhadaeth Prydain.
Geiriau o gyngor
Mae’r llysgenhadaeth wedi rhoi geiriau o gyngor i gefnogwyr eraill bydd yn ymweld â’r brifddinas.
“Byddwch yn ymwybodol os ydych yn berson sengl yn hwyr yn y nos bod angen bod yn ofalus iawn,” meddai.
“Y cyngor gorau yw tynnu llun o’r tacsi a’i anfon at ffrind neu peidiwch â theithio ar eich pen eich hunain os yn bosibl.”
Er bod y fenyw yn iawn, dywedodd ei bod yn “ofidus” ac “yn teimlo’n agored iawn i niwed.”