Mae angen i Lywodraeth y Deyrnas Unedig roi cymorth ychwanegol i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus hanfodol, medd y Gweinidog Cyllid Rebecca Evans.
Mae ei sylw’n cyfeirio at Ddatganiad yr Hydref, fydd yn cael ei gyhoeddi gan Jeremy Hunt, Canghellor y Deyrnas Unedig, ddydd Mercher (Tachwedd 22).
Yn ôl y Gweinidog, mae gwasanaethau cyhoeddus yn wynebu penderfyniadau “anodd tu hwnt” wrth i’r gwasanaeth iechyd ac awdurdodau lleol wynebu “heriau eithafol” i’w cyllidebau.
Mae’r meysydd iechyd, gofal cymdeithasol, addysg a digartrefedd o dan bwysau penodol, meddai.
“Rydyn ni’n wynebu pwysau eithriadol ar ein cyllideb o ganlyniad i gyfnod hir o chwyddiant uchel, ynghyd â’r cyfuniad gwenwynig o fwy na degawd o gyni ac effeithiau parhaus Brexit,” meddai.
“Bydd effaith sylweddol ar ddyfodol uniongyrchol ein gwasanaethau cyhoeddus hanfodol os bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn methu â buddsoddi.”
Diogelu tomenni glo
Yn ôl Rebecca Evans, mae angen i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gydnabod yr angen am fuddsoddiad ychwanegol mewn diogelwch tomenni glo.
Mae’r Gweinidog wedi ysgrifennu at y Canghellor yn galw am “fuddsoddiad sylweddol” yn y maes.
Dywed bod Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod £50 miliwn ar gael ar gyfer archwilio a chynnal a chadw tomenni glo ers 2020.
Mae hi wedi annog Llywodraeth y Deyrnas Unedig i gyfrannu £20 miliwn at gefnogi’r gwaith o adfer safleoedd dethol.
Daw hyn wrth i Lywodraeth Cymru wedi cyhoeddi lleoliadau tomenni glo categori C a D ar draws Cymru yn ddiweddar. Dyma’r tomenni sydd angen eu harchwilio’n amlach.
Buddsoddi mewn rheilffyrdd
Mynegodd yr angen am fwy o fuddsoddiad gan y Deyrnas Unedig yn rheilffyrdd Cymru hefyd.
“Nawr, gan mai dim ond rheilffordd rhwng Llundain a Birmingham yw HS2, mae dadleuon simsan Llywodraeth y Deyrnas Unedig dros ei alw’n brosiect ‘Cymru a Lloegr’ wedi chwalu’n llwyr,” meddai.
“Mae HS2 yn brosiect ar gyfer Lloegr yn unig a dylai Cymru gael ei chyfran deg o gyllid canlyniadol, gan gynnwys y £270 miliwn rydyn ni wedi’i golli hyd yn hyn.
“Rydyn ni hefyd yn galw am adolygiad ehangach o’r ffordd y mae prosiectau rheilffyrdd yn cael eu dosbarthu.”
Tynnodd sylw at yr angen i ailgysylltu â gwaith y Bwrdd Rheilffyrdd ar y Cyd rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig er mwyn buddsoddi i “ddarparu’r seilwaith rheilffyrdd sydd ei angen ar Gymru.”