Mae hosbis plant yn paratoi i lansio ail apêl codi arian gyda tharged i godi £350,000 mewn 60 awr.
Cynyddodd bil ynni blynyddol Tŷ Hafan o £100,000 i £400,000 y llynedd yn sgil yr argyfwng costau, a bydd yr arian o’r apêl ‘Pan Fydd Eich Byd yn Stopio’ yn mynd at gynnal gwasanaethau’r hosbis.
Canolbwynt yr apêl fydd stori Alfi Morris o Rydaman, fu farw ychydig cyn ei ben-blwydd yn ddyflwydd yn 2015.
Cafodd Alfi ddiagnosis o Syndrom Marfan Newyddenedigol ar ôl iddo fynd yn wael o fewn awr i’w enedigaeth.
Bydd yr apêl ar agor rhwng 10yb dydd Sul Tachwedd 26 tan 10yh ddydd Mawrth Tachwedd 28.
Bydd yr holl roddion a wneir i Tŷ Hafan yn ystod y cyfnod hwnnw yn cael eu dyblu.
Stori Alfi
Ar ôl blynyddoedd o driniaethau IVF ac IUI, cafodd efeilliaid Sara a Jason Morris, Alfi Jay a Besi Jane, eu geni yn 2013, ac fe gaethon nhw gymorth gan hosbis Tŷ Hafan wedi i Alfi fynd yn wael.
Mae’r teulu wedi dewis rhannu eu stori nawr i helpu’r elusen i barhau i gefnogi teuluoedd sydd angen y gwasanaethau.
Mae Syndrom Marfan yn effeithio ar feinwe gysylltiol person, meinwe sy’n cefnogi strwythur y corff ac yn cefnogi organau mewnol.
“O fewn awr i’n plant annwyl gyrraedd, roedd Alfi yn wael iawn a chafodd ei ruthro i’r uned fabanod,” meddai Sara Morris.
“Roedd y misoedd nesaf yn annelwig.
“Roedd Alfi wedi cael diagnosis o Syndrom Marfan Newyddenedigol ac roeddem yn gwybod nad oedd ei brognosis yn dda.
“Roedd bywyd gyda’r efeilliaid yn werthfawr ac fe wnaethon ni geisio gwneud cymaint o atgofion ag y gallem.”
‘Diolchgar am byth’
Argymhellwyd Tŷ Hafan i Sara a Jason pan oedd Alfi a Besi yn naw mis oed.
“Yn Tŷ Hafan, cefais i a Jason gyfle i dreulio amser gyda’r efeilliaid,” cofia Sara.
“Am y tro cyntaf, doedd dim angen i ni osod ein larymau, poeni am feddyginiaeth na phoeni am anghofio pacio holl offer meddygol Alfi.”
Bu farw Alfi Fawrth 1 2015, pen-blwydd priodas Sarah a Jason Morris.
“Ers iddo farw, mae Tŷ Hafan wedi bod yn gefnogaeth enfawr i ni,” meddai Sara.
“Rydyn ni’n dal i gael cefnogaeth gan ein Gweithiwr Cymorth i Deuluoedd, ac rydyn ni’n gwybod bod Tŷ Hafan yno i ni pryd bynnag a sut bynnag yr ydym ni eu hangen.
“Rydyn ni’n ymweld â Tŷ Hafan yn rheolaidd.
“Fedra i ddim dechrau disgrifio’r hyn y mae Tŷ Hafan yn ei olygu i ni fel teulu, ond un peth rwy’n ei wybod yn sicr yw y byddaf yn ddiolchgar am byth am yr atgofion y maen nhw wedi caniatáu inni eu creu ac yr ydym yn dal i’w creu hyd heddiw.”
‘Byd teulu’n newid’
Wrth lansio’r apêl, dywed Lynne Phelps, Pennaeth Lles Teulu a Gwasanaethau Allgymorth Tŷ Hafan eu bod nhw’n “gwybod cymaint mae byd teulu yn newid pan fydd plentyn yn cael diagnosis o gyflwr sy’n byrhau ei fywyd”.
“Mae’n newid eto pan fyddan nhw’n sylweddoli bod yn rhaid iddyn nhw ystyried gofal diwedd oes ac eto pan fydd eu plentyn yn marw.
“Mae Tŷ Hafan yma i ddarparu cefnogaeth ddiddiwedd i deuluoedd o’r eiliad gyntaf y mae eu byd yn newid.
“Allwn ni ddim rhoi mwy o amser i’r plant hynny, ond gyda chymorth a haelioni ein cefnogwyr anhygoel hen a newydd, gall Tŷ Hafan roi’r gefnogaeth sydd ei hangen ar blant a’u teuluoedd yng Nghymru i wneud bywyd byr yn fywyd llawn a, phan ddaw’r amser, darparu gofal profedigaeth parhaus.”