Mae anghofio yn boen bywyd, ac mae colli cof yn ddolur enaid; mae cofio ac anghofio yn allweddol bwysig i bobol.

Mae’r ymennydd dynol yn rhyfeddol gymhleth; perthyn iddo’r gallu anhygoel i brosesu a chadw pentwr o wybodaeth, ond mae anghofio’n anhepgor i’w lwyddiant. Buasai’r ymennydd yn chwythu ei blwc yn reit sydyn pe bai’n gorfod cofio pob peth!

Er yn anhepgor i’n hiechyd ymenyddol, nid hoff gennym anghofio, a buom yn brysur ers dechrau’r dechrau yn ceisio sicrhau bod ryw bethau’n cael eu cadw’n ddiogel yn y cof; ond o’r dechrau, roedd anghofio yn llawer mwy cyffredin na chofio: anghofio’n arferol, cofio’n eithriadol.

Yn y dechreuadau cynnar, roedd y cof yn gyfyngedig i’r unigolyn. Yr unig ffordd o gadw rhyw bethau ar gof a chadw oedd trosglwyddo’r pethau hynny o berson i berson. Er mor bwysig a buddiol eich gwybodaeth, anodd iawn oedd rhannu’r wybodaeth honno’n effeithiol dros bellter ffordd ac amser. O’r herwydd, roedd anghofio yn llawer mwy cyffredin na chofio. Anghofio’n arferol, cofio’n eithriadol.

Mae rhannu yn allweddol bwysig yn y broses o gofio, a gyda datblygiad iaith daeth rhannu gallu a dawn, defnyddio gwybodaeth a rhyddhau grym dychymyg yn haws o lawer. Ond nid digon iaith i gynnal cof, ac o’r herwydd roedd anghofio yn parhau i fod yn llawer mwy cyffredin na chofio. Anghofio’n arferol, cofio’n eithriadol.

Celf

Dechreuwyd paentio lluniau i gadw’r hyn a ddylid ei gofio’n ddiogel, a bu lluniau, am ganrifoedd, yn fodd i gynnal a chadw’r cof; ond oherwydd natur llun, roedd anghofio o hyd, yn llawer mwy cyffredin na chofio. Gellid defnyddio llun i gadw’r cof am un digwyddiad mewn stori, ond mae llun yn methu cadw’r stori i gyd. Ni all llun gyfleu syniadau a damcaniaethau cymhleth; ac eiddo’r arbenigwyr, a’r sawl fedrai dalu am eu harbenigedd, oedd y llun ac felly … parhaodd anghofio’n arferol a chofio’n eithriadol.

Ysgrifen a llyfrau

Datblygodd ysgrifen, a maes o law, llyfrau. Dyma ddatblygiad rhyfeddol yn ein hymdrech i gofio. Gyda datblygiad ysgrifennu daeth modd i gadw ein profiad, gallu a gwybodaeth yn ddiogel a chywir, ar femrwn. Ond eiddo’r ychydig dethol oedd y gallu i ysgrifennu a pherchenogi’r hyn gafodd ei ysgrifennu am ganrifoedd lawer eto. Roedd y gwaith o gofnodi ar bapur yn anferth ac araf. Mae amcangyfrif fod cwmni o ysgrifellau mewn mynachlog yn Lloegr yn yr unfed ganrif ar ddeg wedi cynhyrchu 66 o lyfrau mewn… dwy flynedd ar hugain o lafur di-dor! Ar ddechrau’r bymthegfed ganrif, roedd Llyfrgell Prifysgol Caergrawnt yn cynnwys 122 o lyfrau! Yn 1450, daeth newid byd. Daeth Gwasg Argraffu Gutenberg. Daeth llyfrau’n bethau llawer, llawer mwy cyffredin. Llaciodd gafael y dethol rai ar wybodaeth, ond yn sgil pris uchel llyfrau, ac anllythrennedd lled gyffredin, roedd anghofio yn llawer mwy cyffredin na chofio o hyd. Ie, anghofio’n arferol, cofio’n eithriadol.

Papurau newydd

Gyda’r papur newydd beunyddiol, daeth modd i bobol gael gwybod beth oedd yn digwydd yn eu cymunedau a’r byd. Roedd gwybodaeth ar gael i fwy a mwy o bobol, ond mae’r newyddion beunyddiol yn troi’n hen dros nos! Roedd y pwyslais ar heddiw – ryw edrych ar bethau fesul diwrnod mae’r papur newyddion. Mae’r pwyslais ar ddeall, nid cofio, ac o’r herwydd parhaodd anghofio’n arferol, a chofio’n eithriadol.

Ffotograffiaeth

Maes o law, daeth ffotograffiaeth, recordiau a ffilm. A ydych yn cofio eich camera cyntaf, tybed? Er yn ddigon o ryfeddod ar y pryd, gwyddom erbyn heddiw mai gwaith digon anodd a chymharol ddrud oedd prosesu’r lluniau hyn, ac o’r herwydd roedd gofyn i bobol bwyllo wrth dynnu llun, rhag gwastraffu un o’r 36 llun a berthyn i’r ffilm arferol! Byddai yna aros am yr amser iawn i wasgu’r botwm, gosod pobol yn eu trefn, a gofyn iddyn nhw wenu’n ddel er mwyn argraffu’r lluniau a’u gosod yn dwt mewn albwm trwm a thrwchus. Mawr fu’r newid! Gall cof bach y camera digidol gadw miloedd o luniau, ond yn y cyfnod analog hwnnw y’n ganed ni ynddo, gwaith anoddach o lawer oedd cadw atgofion a chynnal y cof. A do, parhaodd anghofio’n arferol, a chofio’n eithriadol hyd nes yn gymharol ddiweddar.

At hyn dw i’n dod!

O’r dechrau, roeddem yn anghofio llawer mwy o bethau nag yr oeddem yn gallu cofio. Roedd maint ein byd, natur ein cymdeithas â’n gilydd yn sicrhau bod anghofio’n arferol, a chofio’n eithriadol. Gyda datblygiad technoleg ddigidol a rhwydweithiau rhyngwladol, mae’r sefyllfa wedi newid yn llwyr. Erbyn hyn, mae cofio’n arferol, ac anghofio’n eithriadol! Yn 2007, cyfaddefodd google fod pob un cais o eiddo’u defnyddwyr, a phob un canlyniad gafodd ei glicio wedi ei gofnodi’n gymen gan y cwmni. Cystal cyfaddef, felly, fod google yn cofio trwch o bethau amdanom, am ein bywydau, ac am ein ffordd o fyw, sydd wedi hen fynd yn angof gennym! Mae google yn gwybod fwy amdanom ni na fedrwn gofio amdanom ein hunain! Mae polisïau google wedi newid bellach, ond erys hyn fel esiampl o beryglon enbyd y cofio dwfn sydd mor nodweddiadol o’r oes ddigidol hon.

Mae goblygiadau’r cofio dwfn hwn yn bwysig i bawb, ond yn eithriadol bwysig i bobol ffydd. Wrth wraidd ein ffydd mae maddeuant Duw; hanfod maddeuant Duw yw ei barodrwydd i ‘anghofio’ ein pechod – i osod ein pechod o’r neilltu:

Yn awr, ynteu, ymresymwn â’n gilydd, medd yr ARGLWYDD. Pe bai eich pechodau fel ysgarlad, fe fyddant cyn wynned â’r eira; pe baent cyn goched â phorffor, fe ânt fel gwlân (Eseia 1:18).

Heb y gosod hwn o’r neilltu – yr anghofio hwn – mae maddeuant yn amhosibl. Rydym yn paratoi’r ffordd i ddyfodol heb y gallu i anghofio, ac felly heb fedru gosod ein pechodau o’r neilltu, ac o’r herwydd heb y gallu i faddau’n iawn a llawn.

Bellach, mae’r hyn oll a wnawn ar gof a chadw digidol ac mae hynny, wrth gwrs, yn newid y ffordd rydym yn ymwneud â’n gilydd. Rydym yn cofio, ac yn anghofio fel cymunedau; mae ein hanallu i anghofio yn yr oes ddigidol hon yn golygu nad oes gwir gyfle i’r sawl droseddodd yn erbyn y gymuned symud ymlaen ac ailddechrau wedi iddo/i ateb am eu trosedd. Mae ein ddoe, a’n hechdoe, fel tatŵ ar fraich ein byw. Ni ellir dianc rhagddo.

Nid wyf am eiliad yn annog agwedd Kanute-aidd – nid oes troi llaw technoleg yn ôl! Ond fe ddylem, yn union oherwydd hynny, sylweddoli fod anghofio troseddau a chamgymeriadau, a phob cyfle i ailddechrau ac ailgydio ddaw yn sgil yr anghofio hwnnw, yn mynd yn anoddach o hyd fyth. Heb ein bod ni a’n tebyg yn mynd i’r afael â hyn, bydd ein plant, a phlant ein plant, yn byw â’u ddoe a’u heddiw yn gymysg gawl! Yng ngeiriau T.S.Eliot:

If all time is eternally present/all time is unredeemable.

(Burnt Norton. No.1 Four Quartets.1943, Harcourt Press)