Mae’r actores Sera Cracroft wedi siarad yn gyhoeddus am y tro cyntaf am ymosodiad rhyw arni pan oedd hi’n blentyn.

Mewn cyfweliad gydag Elin Fflur ar gyfer y gyfres Sgwrs Dan y Lloer ar S4C, disgrifiodd hi’r ymosodiad yn nhŷ ffrind yn ystod parti pen-blwydd.

Mae Sera Cracroft wedi chwarae rhan Eileen yng nghyfres sebon S4C Pobol y Cwm ers 1989.

Dywed mai ei phrif reswm dros siarad yn gyhoeddus yw ceisio helpu eraill sydd wedi dioddef profiadau tebyg.

‘Plentyn nerfus iawn’

Cadwodd Sera Cracroft yn dawel am yr ymosodiad am flynyddoedd.

“Dw i’n cofio o’n i yn teimlo fy mod i yn mygu,” meddai yn y cyfweliad, fydd yn cael ei ddarlledu ar S4C am 8 o’r gloch heno (nos Lun, Tachwedd 20).

“A wnes i frathu ei law o a sgrechian am Mam.

“A wedyn, dw i yn cofio poen anferthol yn fy mraich i hefyd.

“Sbïo ar y person yma a gwybod bod o wedi dychryn bo fi wedi sgrechian.

“Oedd o yn gafael yn fy mraich i, a wnaeth o droi allan bod o wedi fracture-o fy mraich i.

“Wnes i erioed sôn am y cam-drin rhywiol, erioed tan o’n i bron yn ganol oed.

“Ond o’n i yn cael flashbacks ofnadwy, a dychryn ac o’n i yn blentyn nerfus iawn.”

Ystyried lladd ei hun

Flynyddoedd wedi’r ymosodiad, pan deimlodd ar ei hisaf, dechreuodd Sera Cracroft feddwl am ladd ei hun.

“Doeddwn i methu delio â hyn,” meddai.

“O’n i dan straen.

“Oedd fy ngŵr wedi bod yn sâl yn gorfforol a ges i niwmonia, oedd fy merch ieuengaf yn dioddef gyda’r cyflwr sydd arni.”

Daeth cwlwm Sera Cracroft â’i theulu â hi ’nôl o’r dibyn.

“Wnes i jest meddwl amdan y plant, amdanyn nhw pan oedden nhw yn blant bach.

“Dw i’n cofio un nyrs yn dweud wrtha i, ‘There isn’t one child I’ve spoken to who would think their life better without their mother’.”

‘Dw i mewn lle da’

Dechreuodd Sera Cracroft driniaeth seiciatrig yn fuan wedyn, a dechreuodd rannu ei phrofiadau gyda’r tîm oedd yn ei chefnogi.

“Dw i wedi cael lot o gwnsela, a mae hynna wedi bod yn help,” meddai.

“Dw i wedi gwneud ffrindiau gyda phobol, a maen nhw wedi cysylltu â fi am iechyd meddwl.”

Mae ganddi rwydwaith cymorth cryf bellach, gan gynnwys Neville Southall, cyn gôl-geidwad Cymru ac Everton, sy’n eiriolwr dros wasanaethau iechyd meddwl.

“Rŵan dw i mewn lle da,” meddai Sera Cracroft.