Mae difrod wedi ei wneud i swyddfa’r Aelod Seneddol Jo Stevens yn ardal y Rhath, Caerdydd.
Cafodd paent coch a phosteri yn awgrymu bod ganddi “waed ar ei dwylo” eu gosod ar yr adeilad yn dilyn protest nos Iau (16 Tachwedd).
Daw hyn wedi iddi ymatal rhag pleidleisio yn San Steffan wedi i’r SNP gynnig gwelliant yn galw am gadoediad yn Gaza.
Cefnogodd galwad Llafur am “seibiau dyngarol” yn hytrach na chadoediad.
Wrth siarad gyda BBC Radio Wales, dywedodd yr Aelod Seneddol ei bod hi’n “cefnogi’n ddiamwys yr hawl i brotestio”.
“Ond mae hyn yn mynd ymhell y tu hwnt i hynny. Difrod troseddol yw hwn,” meddai.
“Mae hwn yn weithle a dylai fy staff a minnau, yn ogystal â’m hetholwyr sy’n dod i’m swyddfa bob dydd am gymorth, allu gwneud hynny’n ddiogel.
Cyn-aelod o’r Senedd yn bresennol
Mynegodd Jo Stevens ei siom yn gweld bod cyn-aelod o’r Senedd Plaid Cymru, Bethan Sayed, yn bresennol yn y brotest.
“Byddwn wedi meddwl y byddai gan yr unigolyn yma rhyw ddealltwriaeth o’r effaith ar fy nhîm,” meddai.
Fodd bynnag, amddiffynnodd Bethan Sayed ei gweithredoedd trwy ddweud ei bod hi’n “rhan o rywbeth heddychlon.”
“Dw i’n annog Jo Stevens i ystyried ei gweithredoedd yn hytrach na chanolbwyntio arna i,” meddai mewn datganiad.
Mae Heddlu De Cymru wedi dweud eu bod nhw’n ymchwilio i ddifrod troseddol.
‘Angen trafodaethau’
Yn gynharach yn yr wythnos bu Jo Stevens yn trafod y posibilrwydd o gadoediad ar Radio Wales.
“Mae’r ffaith bod Hamas a Llywodraeth Israel wedi bod yn gwbl glir na fydd y brwydro yn dod i ben ar hyn o bryd, mae yna lawer o waith tu ôl i’r llenni yn ddiplomyddol yn digwydd,” meddai.
“Yr wythnos yma fe wnes i gyfarfod nifer o deuluoedd yn y Senedd sydd â pherthnasau sy’n dal i gael eu dal fel gwystlon a rhai a laddwyd yn ogystal â Palestiniaid sydd wedi colli aelodau o deuluoedd yn Gaza.
“Mae pawb am weld y trais yn dod i ben, ond efo’r ddwy ochr yn dweud na fydden nhw yn rhoi stop ar y bomio, mae hi’n amhosib dod i gadoediad heb drafodaethau.”
Dyma safbwynt y Prif Weinidog Mark Drakeford ac arweinydd y blaid Lafur, Keir Starmer hefyd.