Dydy prinder deintyddion yn helpu dim ar y cynnydd mewn achosion o ganser y geg yng Nghymru, medd un addysgwr deintyddol.
Daw sylwadau Kerri Pritchard, sy’n Addysgwr Iechyd Deintyddol gyda’r Gwasanaeth Iechyd, yn ystod Mis Gweithedu Canser y Geg, ac wrth i’r ystadegau diweddaraf ddangos bod cyfraddau’r canser wedi “cynyddu’n sylweddol” dros yr ugain mlynedd ddiwethaf.
Yn 2002, roedd 171 achos newydd o ganser y geg neu ganser ffaryngeal, ond dros y ddegawd ddiwethaf mae dros 300 achos newydd wedi’u canfod yng Nghymru bob blwyddyn, yn ôl adroddiad Dadansoddiad Cyfraddau Canser y Geg a Chanser Ffaryngeal Cymru.
Mae’r dystiolaeth yn awgrymu fod ffordd o fyw, megis ysmygu tybaco, yfed alcohol a pheidio bwyta digon o lysiau a ffrwythau, yn cynyddu’r risg o gael canser y geg.
Er bod pobol rhwng 60 a 69 oed dal yn fwy tebygol o gael canser y geg nag unrhyw oedran arall, mae meddygon yn ei weld yn dod yn fwy amlwg ymhlith grwpiau iau, meddai Kerri Pritchard, sy’n gweithio’n Sir Fôn a gogledd Gwynedd.
“Mae o’n dod yn fwy amlwg mewn pobol yn eu 50au,” meddai wrth golwg360.
“Mae o lot i’w wneud efo newidiadau i ffordd o fyw, mae’r oes pan oedd pobol yn cnoi tybaco wedi mynd, ond rŵan mae pobol yn vapeio, yn yfed – mae pobol ieuengach yn ei gael o.
“Dyna pam fod o’n rhywbeth rydyn ni wir eisiau ei wthio i’r oedrannau iau, gwneud iddyn nhw feddwl mwy am y penderfyniadau ffordd o fyw achos bod o’n dod yn rhywbeth rydyn ni’n delio efo fo mwy a mwy.”
‘Meddwl amdano mewn ffordd wahanol’
Mae’r symptomau cynnar yn cynnwys:
- Wlserau neu chwydd yn y geg sydd ddim yn gwella o fewn tair wythnos.
- Poen yn y geg.
- Rhannau gwyn neu goch yn y geg neu’r gwddf
- Trafferth llyncu
- Problemau llefaredd
- Lwmp yn y gwddf
- Colli pwysau heb esboniad
- Gwynt drwg
“Os fysa chdi’n ffeindio lwmp ar dy fron fysa chdi’n mynd yn syth at dy feddyg teulu ond os fysa chdi’n ffeindio rhywbeth yn dy geg, ti’n meddwl bod o am fynd, mae pobol yn meddwl amdano fo mewn ffordd hollol wahanol,” ychwanega Kerri Pritchard.
“Y neges bwysig rydyn ni’n trio’i chyfleu ydy rhywbeth sydd yn y geg neu o gwmpas y geg am fwy na thair wythnos, mae o angen cael ei weld.”
Mae’r dystiolaeth hefyd yn awgrymu bod cysylltiad rhwng feirws papiloma dynol (HPV) a chanser y geg, ac mae Kerri Pritchard yn pwysleisio bod hynny’n rheswm arall dros annog pobol ifanc i gael eu brechu yn erbyn HPV pan maen nhw yn yr ysgol.
‘Prinder deintyddion’
Rhwng 2019-20 a 2020-21, bu gostyngiad o 5% yn nifer deintyddion Cymru, ac yn ôl y Democratiaid Rhyddfrydol mae dros 14% o ddeintyddion y wlad agosáu at oed ymddeol.
“Os ti’n lwcus bod gen ti ddeintydd, mae hynny’n help. Ond does gan bawb ddim un,” ychwanega Kerri Pritchard.
“Mae tsiecio’n ceg yn rhywbeth fedrwn ni wneud ein hunan, ond os ti’n ffeindio rhywbeth – be ydy’r cam nesaf?
“Achos does gennym ni ddim y deintyddion, does gennym ni ddim yn manpower i ddelio efo fo.
“Dw i’n meddwl bod y ffaith bod yna ddiffyg deintyddion yng ngogledd Cymru’n broblem, dw i’n siarad efo pobol ar y llinell gymorth yn aml ac maen nhw ar restrau aros ers dwy flynedd felly dydy o ddim yn helpu’r sefyllfa o gwbl.”
‘Dewis amhosib’
Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig wedi galw ar Lywodraeth Cymru i wella’r mynediad at ofal deintyddol i bobol hŷn yn sgil cynnydd mewn achosion o ganser y geg hefyd.
“Yn ôl Cymdeithas Ddeintyddol Prydain, mae naw ymhob deg person sy’n cael diagnosis o ganser y geg yn goroesi os ydy’r canser yn cael ei ddal yn ddigon cynnar,” meddai Jane Dodds, Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig.
“Ond mae pobol hŷn yn wynebu dewis amhosib rhwng byw â phoen ddeintyddol neu dalu costau anhygoel am ofal preifat.”
‘Lleiaf tebygol i weld deintydd’
Wrth ymateb i gwestiwn Jane Dodds ynglŷn â’r mater yn y Senedd ddydd Mawrth (Tachwedd 14), dywedodd Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, ei fod wedi bod yn trafod y pwnc gyda phrif swyddog deintyddol Cymru.
Roedd e o’r farn nad deintyddion sydd eu hangen i fynd i’r afael â’r cyfraddau, oherwydd na fedran nhw ddod o hyd i ganser y wefus na chanser y gwddf, dim ond canser y geg.
“Dywedodd wrthyf hefyd fod y bobol rydyn ni’n pryderu amdanyn nhw ymysg y rhai lleiaf tebygol i weld deintydd,” meddai Mark Drakeford yn y Senedd.
“Hyd yn oed pan fo’r gwasanaeth ar gael iddyn nhw, dydyn nhw ddim yn mynd am driniaeth ddeintyddol.
“Er bod deintyddiaeth yn rhan o’r system i ymateb i ganser y geg, dydy dibynnu arno ond yn rhan o’r ateb.
“Y math o ganser y geg sy’n cynyddu gyflymaf yw canser y gwddf, a hwnnw yw’r un â’r cysylltiad mwyaf uniongyrchol â heintiadau HPV, felly bydd gwella cyfraddau brechu HPV yng Nghymru’n fesur arall i atal achosion.”