Mae menter gymunedol ym Mhwllheli “wedi gwirioni” eu bod nhw wedi cyrraedd eu targed ar gyfer prynu hen westy yn y dref.
Y gobaith yw y bydd tua phedwar neu bum prosiect dan un to yng Ngwesty’r Tŵr, gan gynnwys gwesty, tafarn ac ystafelloedd i’r gymuned, ac o bosib bwyty a gweithdai i grefftwyr.
Er fod Menter y Tŵr wedi cadarnhau eu bod nhw wedi cyrraedd y targed o £400,000, byddan nhw’n cyhoeddi’r union fanylion yn y man ar ôl gwneud yr holl waith cyfrifo.
“Rydyn ni wedi gwirioni bod gennym yr adeilad yma rŵan yn eiddo i bobol y dref a’r ardal,” meddai Ffion Williams ar ran Menter y Tŵr wrth golwg360.
“Rydym wedi cael gymaint o gefnogaeth gan bobol.
“Mae wedi bod yn anhygoel.”
Adnewyddu’r stryd fawr
Mae’r adeilad wedi’i leoli yng nghanol y dref a’r gobaith ydy y bydd yn codi safon y stryd.
Aeth y gymuned ati i’w brynu “yn rhannol mewn ymateb i’r teimlad cyffredinol ym Mhwllheli bod y dref yn dechrau mynd yn rundown, bod y stryd fawr, fel ti’n cael mewn lot o lefydd, angen ryw fath o adnewyddu,” meddai Elin Hywel, sy’n cynrychioli Plaid Cymru yng Ngogledd Pwllheli ar Gyngor Gwynedd ac yn drysorydd pwyllgor y fenter, wrth golwg360.
Yn ôl Elin Hywel, mae’r ymateb yn yr ardal wedi bod yn “anhygoel”, a chafodd y pwyllgor dros 300 o ymatebion i holiadur yn holi am farn ar ddefnydd posib i’r adeilad.
“Yn y pwyllgorau, roedd o’n eithaf anhygoel gweld pobol yn siarad am gymuned lwyddiannus, lle mae pobol eisiau byw, lle braf i fod, a gwneud i hynna weithio drwy greu busnes sy’n cynnig rhywbeth gwahanol i dwristiaid hefyd – gwesty o safon oedd yn adlewyrchu diwylliant Cymreig Pwllheli, tŷ tafarn cymunedol oedd yn creu lle braf i bobol fynd lle bod y gymuned yn gallu dod at ei gilydd, stafelloedd cymunedol i bobol gynnal dosbarthiadau a grwpiau reit yng nghanol dref,” meddai.
“A bod hyn i gyd yn gweithio i adnewyddu’r rhan yna o’r dref i gyd.”
Mae yna bedair uned yng nghefn yr adeilad, ac un opsiwn fyddai eu cynnig nhw fel gweithdai neu siopau i grefftwyr lleol, meddai.
“Rydyn ni’n eithaf hyderus fedrwn ni wneud o weithio, mae’r busnes yna.”