Mae presgripsiynau digidol wedi cael eu lansio yng Nghymru heddiw (17 Tachwedd).

Y gobaith yw bydd y gwasanaeth yn gwneud y broses yn haws, yn fwy diogel a’n fwy effeithlon.

Dim ond i rai cleifion mae’r gwasanaeth ar gael ar hyn o bryd, a Chanolfan Feddygol Lakeside a Fferyllfa Ffordd Wellington yn y Rhyl yw’r rhai cyntaf i gyflwyno presgripsiynau digidol.

Bydd y gwasanaeth yn cael ei gyflwyno’n raddol i weddill Cymru o Ionawr 2024 ymlaen.

“Rydyn ni wedi gweld awydd ac ymrwymiad gwirioneddol gan feddygon teulu a fferyllwyr cymunedol i fabwysiadu hyn a gan y cwmnïau meddalwedd dan sylw i wneud y newidiadau angenrheidiol i’w systemau cyn gynted â phosibl,” meddai’r Athro Hamish Laing, y Prif Berchennog Cyfrifol ar gyfer y Portffolio Trawsnewid Meddyginiaethau Digidol.

Mae disgwyl y bydd y cam yn arbed oddeutu 40 miliwn o ffurflenni papur bob blwyddyn, yn ôl Llywodraeth Cymru.

“Carreg filltir bwysig”

Dywedodd Andrew Evans, Prif Swyddog Fferyllol Cymru, bod arloesi digidol “yn allweddol” er mwyn gwella’r gwasanaeth i gleifion a staff.

“Mae hyn yn newid trawsnewidiol a fydd yn cael effaith sylweddol ar y ffordd rydyn ni’n gweithio ac yn gweddnewid prosesau cyfredol,” meddai.

“Mae’n hanfodol bod y newidiadau hyn yn cael eu cyflwyno’n ddiogel, a dyna pam mae’r cyfnod profi hwn mor bwysig.

“Rwy’n ddiolchgar i’r timau sy’n gweithio’n galed yn y feddygfa a’r fferyllfa, sef y rhai cyntaf i fabwysiadu presgripsiynau digidol ym maes gofal sylfaenol ac i bawb sy’n rhan o gyflawni’r gwaith pwysig hwn i bobl ac ymarferwyr yn y maes ledled Cymru.”

Bydd y datblygiad yn gwneud gwahaniaeth enfawr i’r Gwasanaeth Iechyd, medd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan.

“Rydyn ni ar ddechrau taith ddigidol gyffrous a fydd yn gweddnewid y ffordd mae presgripsiynau yn cael eu rheoli ym maes gofal sylfaenol, gan symleiddio proses nad yw wedi newid fawr ddim ers degawdau,” meddai Eluned Morgan.

“Bydd presgripsiynau electronig yn gwneud gwahaniaeth enfawr i’r Gwasanaeth Iechyd a chleifion ac mae’n garreg filltir bwysig yn ein taith tuag at ddigideiddio pob presgripsiwn ym mhob lleoliad gofal iechyd yng Nghymru.

“Hoffwn ddiolch i’r staff yn y feddygfa a’r fferyllfa am eu cefnogaeth fel y rhai cyntaf i fabwysiadu’r Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig ac rwy’n gobeithio gallwn ni edrych ar sut all lleoliadau gofal sylfaenol eraill ddefnyddio presgripsiynau digidol.”