Mae Mark Drakeford dan y lach yn dilyn ei gyhoeddiad na fydd arian ar gael i ddarparu prydau ysgol am ddim dros wyliau’r haf.

Yn ôl y Prif Weinidog roedd yn rhaid gwneud dewisiadau anodd oherwydd bod £900 miliwn yn llai o gyllideb gan Lywodraeth Cymru.

Bu disgyblion o deuluoedd incwm isel yn derbyn prydau am ddim dros wyliau ysgol ers Ebrill 2020 oherwydd y pandemig.