Dydy’r rhan fwyaf o bobol yng Nghymru ddim yn cefnogi’r polisi o atal adeiladu rhagor o ffyrdd, yn ôl pôl piniwn newydd.
Mae’r cam yn cael ei ystyried gan y cyhoedd fel un aneffeithiol o fynd i’r afael â newid hinsawdd a thorri allyriadau carbon.
Mae hynny wedi’i gefnogi gan ymchwil gan Britain Remade, ddaeth i’r casgliad fod parhau i gwblhau prosiectau ffyrdd newydd sy’n lleihau tagfeydd, yn cyflymu amserau teithio ac yn cynyddu twf economaidd yn gallu digwydd ar yr un pryd â’r ymdrechion i fynd i’r afael â newid hinsawdd.
Yn dilyn adolygiad gan Banel Ffyrdd Cymru, oedd wedi para blwyddyn, cafodd 55 o brosiectau adeiladu eu rhoi o’r neilltu gan Lywodraeth Cymru ar sail yr hinsawdd, sy’n golygu gwaharddiad i bob pwrpas ar adeiladu ffyrdd newydd yn y dyfodol.
Y pôl
Cafodd y pôl ei lunio gan yr ymgyrchwyr Britain Remade, ac mae’n dangos bod 49% yn gwrthwynebu gwaharddiad Llywodraeth Cymru ar adeiladu rhagor o ffyrdd, tra bod traean (33%) yn ei gefnogi, a 18% yn ansicr.
Mae hanner (50%) y rhai wnaeth ateb hefyd yn credu y byddai gwahardd adeiladu ffyrdd yn cael effaith negyddol ar yr economi.
O edrych ar y sefyllfa fesul pleidiau gwleidyddol, roedd 67% o’r rhai oedd yn gwrthwynebu’n Geidwadwyr, 46% yn cefnogi Llafur a 43% yn bleidiol i Blaid Cymru.
Yn y gogledd, mae penderfyniad dadleuol Llywodraeth Cymru i gefnu ar y cynllun i godi trydedd bont y Fenai o Ynys Môn i brif dir Cymru hefyd wedi cael ei herio gan yr arolwg barn, gyda bron i hanner (46%) o bobol y rhanbarth yn erbyn cael gwared ar y groesfan newydd.
‘Lefelau enfawr o wrthwynebiad’
“Mae ein harolwg wedi datgelu lefelau enfawr o wrthwynebiad i bolisi gwallgof Llywodraeth Cymru o wahardd adeiladu ffyrdd newydd gan bob rhan o’r sbectrwm gwleidyddol, sy’n dangos pa mor wael yw’r meddylfryd tu ôl i’r polisi,” meddai Sam Richards, sylfaenydd a Chyfarwyddwr Ymgyrchu Britain Remade.
“Os ydyn ni am fynd i’r afael â newid hinsawdd, nid gwahardd ffyrdd newydd yw’r ateb.
“Y cyfan y bydd hyn yn ei gyflawni yw mwy o dagfeydd ac amseroedd teithio hirach, wrth niweidio twf economaidd a swyddi yn cael eu creu yng Nghymru.
“Yn lle, mae angen i ni adeiladu ffyrdd sy’n addas ar gyfer y dyfodol, â chyflenwad digonol o orsafoedd gwefru cerbydau trydan fel bod gan yrwyr y rhyddid i newid pan fo’r amser yn iawn iddyn nhw.
“Dydy’r newid i gerbydau trydan ddim yn mynd i ddigwydd dros nos.
“Mae angen i Lywodraeth Cymru baratoi ar gyfer y dyfodol drwy adeiladu’r seilwaith sydd ei angen arnynt hwy nawr, fel bod gyrwyr yn hyderus y gallant fynd o A i B yn gyflym ac yn hawdd heb orfod meddwl.
“Ia, mae angen i ni fod yn buddsoddi mewn rheilffyrdd newydd, tramiau newydd a llwybrau beicio newydd, ond mae angen i ni fuddsoddi mewn ffyrdd hefyd, sef y ffordd mae’r rhan fwyaf o bobol yn cyrraedd y gwaith.
“Dylen nhw fod yn helpu gyrwyr, nid yn eu cosbi.”
Mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod gwneud sylw.