Mae ceidwad llwybrau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Eryri yn hanu o Lundain ond yn dweud bod mynd ati i ddysgu Cymraeg wedi newid ei bywyd.

Mae’n Ddiwrnod Ceidwaid y Byd ar Orffennaf 31, ac mae Rachel Bedwin yn aelod o dîm llwybrau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a bellach yn siarad Cymraeg yn rhugl.

Graddiodd hi yn y Gwyddorau Naturiol o Brifysgol Caergrawnt, ac aeth yn ei blaen i astudio gradd ôl-raddedig mewn Embryoleg yng Ngholeg y Brenin yn Llundain.

Yn ystod haf 2017 y dechreuodd hi ddysgu Cymraeg trwy Duolingo, ac erbyn y gwanwyn 2019 roedd hi wedi cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus.

Roedd hi’n chwilio am gyfleoedd i ymarfer ei Chymraeg pan ymunodd hi â’r cynllun ‘Gwyliau gwaith’ gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Eryri.

Syrthiodd hi mewn cariad â’r ardal, a phenderfynodd hi ganolbwyntio ar ddod yn siaradwr Cymraeg rhugl, gyda’r nod o symud i Eryri i weithio yn y dyfodol.

Dros y tair blynedd nesaf, bu’n ymarfer ei Chymraeg, gan ymuno â chôr Cymreig yn Llundain, darllen llyfrau Cymraeg, gwrando ar gerddoriaeth Gymraeg a gwylio S4C.

Bu hefyd yn gwirfoddoli gyda’r RSPB ar Ynys Lawd am bythefnos er mwyn gwella’i sgiliau siarad Cymraeg.

“Mae dysgu Cymraeg wedi rhoi cyfleoedd i fi i newid fy mywyd mewn ffordd doeddwn i ddim yn disgwyl, oherwydd ar ôl dysgu Cymraeg fe ddois i Eryri i wneud y ‘Gwyliau gwaith,” meddai.

Y gwaith

Yn ystod hydref 2022, ar ôl blwyddyn o weithio’n wirfoddol ym maes cadwraeth, gwnaeth hi gais am rôl Ceidwad Llwybrau gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Eryri.

Syfrdanodd hi’r panel drwy gynnal ei chyfweliad yn llwyr drwy gyfrwng y Gymraeg, a chafodd ei phenodi i’r rôl.

Symudodd hi i Eryri i ymgymryd â’r rôl newydd, gan adael ei bywyd dinesig yn Llundain am lwybrau Eryri a Chôr Eifionydd.

Mae hi’n un o bedwar aelod o dîm llwybrau Eryri (a’r unig fenyw) sy’n gweithio’n llawn amser.

Drwy gydol y flwyddyn, maen nhw’n cynnal a chadw rhwydwaith o 100km o lwybrau troed ar draws Eryri.

Mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn gofalu am 58,000 erw (23,471 hectar) o dir yn Eryri, gan gynnwys rhai o’r copaon mwyaf poblogaidd.