Mae’n “ddiwrnod trist” wrth i “fesur gwahardd lloches” San Steffan ddod yn gyfraith, yn ôl Liz Saville Roberts.

Mae disgwyl i’r Bil Mudo Anghyfreithlon ddod i rym yn dilyn cyfres o bleidleisiau yn Nhŷ’r Arglwyddi.

Mae’n cael ei hystyried yn ddeddfwriaeth ganolog i addewid Rishi Sunak, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, i atal cychod bychain rhag croesi’r Sianel.

Mae’r ddeddf yn gosod dyletswydd ar yr Ysgrifennydd Cartref i gadw unrhyw un sy’n croesi’n anghyfreithlon yn y ddalfa a’u halltudio wedyn i Rwanda neu i wlad arall, ond dydy’r union fanylion ddim yn glir ar hyn o bryd a does dim trefniadau i’r cyfeiriad arall.

Fydd dim terfyn amser ar gyfer cadw pobol yn y ddalfa cyn eu halltudio o dan y Bil newydd chwaith, ac fe gafodd ymdrechion i gyflwyno terfyn o dri diwrnod i blant a therfyn arall o 24 awr ar gyfer plant heb oedolyn, ond cafodd yr awgrymiadau hynny eu gwrthod.

Cafodd y cynllun Rwanda ei wfftio fel un anghyfreithlon gan y Llys Apêl fis diwethaf, ond mae gweinidogion yn herio’r dyfarniad hwnnw.

Ar yr unfed awr ar ddeg, ceisiodd yr Arglwyddi gyflwyno terfynau amser ar gyfer cadw plant a gwarchodaeth rhag caethwasiaeth fodern.

Unwaith fydd y Bil yn derbyn cydsyniad brenhinol, bydd yn dod yn gyfraith.

Ond mae’r Cenhedloedd Unedig wedi mynegi pryderon amdano, gan ddweud ei fod yn golygu “canlyniadau dirfawr” i bobol sydd angen gwarchodaeth ryngwladol a’u bod nhw’n wynebu “risg o ran torri cyfraith ryngwladol”.

‘Creulondeb eithafol ac eithriadoldeb Prydeinig’

Wrth ymateb, mae arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan wedi cyhuddo Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig o “greulondeb eithafol ac eithriadoldeb Prydeinig”.

“Diwrnod trist wrth i fesur gwahardd lloches Suella Braverman ddod yn gyfraith – cynnyrch o greulondeb eithafol ac eithriadoldeb Prydeinig,” meddai Liz Saville Roberts.

“Mae pobol Cymru eisiau atebion trugarog i’r argyfwng mudo, nid dadlwytho ein cyfrifoldebau.

“Nid yw Torïaid San Steffan yn ein cynrychioli ni.”