Does dim sicrwydd mai fel llyfrgell y bydd Hen Lyfrgell ac Ystafell Ddarllen Ceinewydd yn parhau, yn ôl cynghorydd lleol.

Daw sylwadau Julian Evans wrth i alwad am ddatganiadau o ddiddordeb i ddatblygu’r adeilad gael ei chyhoeddi.

Mae cymuned Ceinewydd yn cael eu gwahodd i gyflwyno datganiadau o ddiddordeb ar gyfer datblygu safle’r Hen Lyfrgell a’r Ystafell Ddarllen at ddibenion addysgol.

Cafodd ymgynghoriad cyhoeddus ei gynnal rhwng Chwefror 27 a Mai 7 eleni, yn gofyn i’r cyhoedd a oedden nhw’n cytuno â phwrpas newydd arfaethedig yr Hen Lyfrgell a’r Ystafell Ddarllen i “hyrwyddo addysg trigolion Ceinewydd”.

Cafodd y Cylch Meithrin, y Cyngor Tref, yr ysgol gynradd, y clwb pêl-droed, y Neuadd Goffa, y Llyfrgell Gymunedol a phartneriaid Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus eu hysbysbu hefyd am yr ymgynghoriad, a bu’r Pwyllgor Ymddiriedolwyr Elusennol yn ystyried yr ymatebion ddaeth i law.

Cafodd ystod o awgrymiadau eu cyflwyno, ond doedd dim niferoedd uchel ar gyfer unrhyw un awgrym, a doedd nifer o’r awgrymiadau ddim at ddibenion addysgol, ond maen nhw’n awgrymu bod y cyhoedd ar y cyfan yn dymuno i’r safle gael ei ddefnyddio o hyd.

Ystyriaethau

Ystyriodd y pwyllgor gyflwr yr adeilad, sydd angen buddsoddiad sylweddol i sicrhau ei fod yn addas at y pwrpas.

Nodwyd nad yw’r arian sy’n cael ei dalu gan yr Ymddiriedolaeth yn ddigonol i dalu am y gwaith hwn, felly daeth argymhelliad fod y pwyllgor yn ymgynghori â chymuned Ceinewydd ynghylch a fyddai unigolyn neu sefydliad â diddordeb mewn ymgymryd â’r safle ar sail prydles at ddiben addysgol, gan geisio cyllid grant i gyflawni’r gwaith yn ôl yr angen.

Yn ôl y Cynghorydd Julian Evans, sy’n cynrychioli Ceinewydd, mae hysbyseb wedi mynd yn y papur newydd yn gofyn am syniadau am beth i’w wneud â’r adeilad.

Er eu bod yn ystyried datblygu hen adeilad y llyfrgell ar gyfer dibenion addysgol, fydd hi ddim yn llyfrgell oherwydd bod yna lyfrgell arall yn yr ardal erbyn hyn.

“Cafodd pwyllgor elusen y Cyngor Sir gyfarfod bythefnos yn ôl, ac o ganlyniad i’r cyfarfod hwnnw maent wedi cyhoeddi hysbyseb yn y Cambrian News yn gofyn i bobol gymryd rhan a rhoi eu syniadau yn eu lle fel bod pwyllgor elusennol Ceredigion yn gallu penderfynu beth maen nhw angen ei wneud gyda’r cynigion,” meddai Julian Evans wrth golwg360.

“Mae gennym ni lyfrgell newydd oherwydd mae’r llyfrgell newydd bellach wedi’i lleoli yn y neuadd goffa.

Mae pobol oedd yn defnyddio’r llyfrgell cyn rŵan yn dod i’r llyfrgell newydd yn y neuadd goffa.

“Byddai’n rhaid iddo fod ar gyfer beth bynnag y mae’r bobol am ei wneud ag e,” meddai wedyn.

Mewn cyflwr gwael

Roedd Julian Evans yn ymddiriedolwr ar yr Hen Lyfrgell, a fe hefyd yw cadeirydd y Neuadd Goffa lle mae’r llyfrgell newydd.

Gan fod ganddo ddiddordeb yn y ddau adeilad, mae’n gwybod nad yw hen adeilad y llyfrgell mewn cyflwr digon da i fod yn llyfrgell.

“Roedd pwrpas addysgol, ond dywedodd y llyfrgell eu hun yn yr ymgynghoriad gafodd ei gyflwyno gan y Cyngor Sir i Geinewydd, Adran Ystadau Ceredigion, fod angen dymchwel y llyfrgell oherwydd bod yna gynhaliaeth yn y llawr concrit yn ymestyn o un pen i’r llall,” meddai.

“Mae tua modfedd o un hanner i’r llall.

“Does dim dŵr poeth, does dim cyfleusterau toiled.

“Beth maen nhw wedi’i ddweud yw bod gwir angen ei ddymchwel.

“Mae gen i ddiddordeb personol yn y ddau ohonyn nhw.

“Cyn belled ag y mae’r hen lyfrgell yn y cwestiwn, doedd yr eiddo ei hun ddim yn ffit i fod yn llyfrgell a dweud y gwir.”

‘Diolch’

Mae’r Cynghorydd Keith Evans, cadeirydd y Pwyllgor Ymddiriedolwyr Elusennol, wedi diolch i’r gymuned ehangach.

“Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd yr amser i ymateb i’r ymgynghoriad,” meddai.

“Mae’n bwysig bod barn y gymuned leol wrth wraidd unrhyw benderfyniad sy’n effeithio arnynt.

“Mae hwn yn gyfle cyffrous i unigolyn neu grŵp cymunedol ddatblygu’r Hen Lyfrgell ac Ystafell Ddarllen yng Ngheinewydd at ddibenion addysgol, ac edrychwn ymlaen at dderbyn ceisiadau o’r fath.”

Yn ôl Sharon Evans, sy’n gweithio yn y llyfrgell yn y Neuadd Goffa, mae’n cael ei rhedeg yn rhan amser gan Gyngor Sir Ceredigion, ac ar agor yn rhan amser gyda gwirfoddolwyr yn gweithio yno.

“Gwirfoddolwyr sydd wedi cymryd drosodd Llyfrgell Ceinewydd,” meddai.

“Erbyn mis Mehefin nesaf, 2024, mae gwirfoddolwyr wedi bod yn gweithio’r llyfrgell ers deng mlynedd.

“Rydym yn dal i fod dan Gyngor Sir Ceredigion.

“Rydyn ni’n cael ein holl lyfrau ganddyn nhw, maen nhw’n gwneud yr holl waith cyfrifiaduron i ni.

“Os oes unrhyw faterion sydd gennym, rydym yn dal yn cysylltu efo Cyngor Sir Ceredigion.

“Mae’r gwasanaeth yn rhagorol.

“Mae’r llyfrgell ar agor ddydd Mawrth a dydd Iau, 3.30-5yp.

“Ar ddydd Gwener cyntaf pob mis, mae ar agor o 10-12, a 5.45-7 ar ddydd Gwener.

“Ar ddydd Sadwrn olaf bob mis, rydym ar agor 10.30-12.30.

“Mae’r holl bobol sy’n gweithio yn y llyfrgell yn wirfoddolwyr di-dâl.

“Rydym yn dod o dan faner Cyngor Sir Ceredigion.”

  • Os oes gennych chi ddiddordeb i ymgymryd â’r safle at ddiben addysgol, cysylltwch â Gwasanaethau i Gwsmeriaid Clic ar 01545 570881 neu clic@ceredigion.gov.uk cyn 10 Awst 2023, gan nodi “Datganiad o ddiddordeb: Ceinewydd