Heb fawr syndod, daeth trafnidiaeth yn bwnc llosg draw yng nghynhadledd Plaid Cymru yn Aberystwyth dros y penwythnos.

Yng nghynhadledd y Ceidwadwyr wythnos yn gynharach gohiriodd Rishi Sunak weddill y prosiect rheilffordd HS2 gan addo £1 biliwn i drydaneiddio rheilffordd gogledd Cymru yn ei le.

Mae Plaid Cymru eisoes wedi galw ar Lywodraeth San Steffan i ddyrannu’r £5 biliwn lawn sy’n ddyledus i Gymru o’r prosiect trwy’r fformiwla Barnett.