Mwy o ddatganoli? Na, no, nefar – dyna’r neges glir o gynhadledd y Ceidwadwyr yng Nghasnewydd y penwythnos diwethaf.

Yn syml, mae’r Torïaid Cymreig am weld Llywodraeth Lafur Cymru yn cael trefn ar y Gwasanaeth Iechyd ac Addysg, yn hytrach na chael mwy o rymoedd i ofalu am yr heddlu a darlledu.

Yn ei araith fe ddywedodd Andrew RT Davies fod “gweinidogion Llafur yn blaenoriaethu prosiectau hunanbwysig a materion ymylol, yn lle’r pethau sy’n wirioneddol bwysig”.