Yn ogystal â chwilio am fois i ymuno â’u corau Only Boys Aloud yn y gorllewin, mae’r trefnwyr yn bwriadu sefydlu côr merched yn yr ardal…

Mae nifer o ferched ifanc yn teithio’n bell o Geredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro i ymarferion côr Only Girls Aloud yng Nghaerdydd bob mis ers iddo gael ei sefydlu yn 2022.

Nawr mae’r elusen Aloud yn bwriadu sefydlu côr Only Girls Aloud newydd yn y de orllewin eleni, lle mae yna eisoes dri chôr Only Boys Aloud.