Trydar ar bwnc amserol gan y beirdd i ddechrau, yn cyfarch y Brenin Carlo a’i awydd i’n cael i gyd i dyngu llw teyrngarwch…

“Sen/yw ofergoel dy fargen.” (@EmyrLewis4)

“Gwrogaeth? Rhwyg a rhegi!/Na’n wir, NID fy mrenin i.” (Annes Glyn @Yr_Hen_Goes)

Ac mae blogwyr mwy rhyddieithol yn gweld ystyr dyfnach yn Sioe Fawr y Coroni…

“Mae hanes yn cael ei ail-sgrifennu (a’i ddad-sgrifennu) o flaen ein llygaid. Mae Prydain sy’n un genedl sengl gydag un diwylliant unigol a chasgliad unol o bolisïau mewnol yn cael ei chreu… Yn y cyd-destun yma, mae’r trobwll o ofn a chasineb yn cyfrannu at sioe’r Coroni, lle mae’r syniad o Genedlaetholdeb Gristnogol, Undeboliaeth a Thraddodiad Hynafol yn cyfuno mewn sbloet o adfer byd coll… Mae’r straeon yn glir. Mae Kate yn cael ei chyflwyno fel caseg fagu burlan, yn ddymunol o dawel ac ufudd, yn hollol groes i’w chwaer-yng-nghyfraith atgas. Y Coroni yw penllanw’r syniad fod Prydain yn lle hynafol ac eithriadol. Mae perthynas fanwl iawn rhwng y ffys ynghylch hyn a chyflwr go-iawn Prydain wedi Brexit.” (Mike Small ar bellacaledonia.org.uk)

Cysylltu hyn â datblygiad syniadau newydd y Ceidwadwyr Cenedlaethol (Sosialwyr Cenedlaethol?) y mae John Dixon…

“R’yn ni ar hyn o bryd yn gweld chwa o goch, gwyn a glas… yn gysylltiedig â ‘the clowning of the king’; ond fydd hynny yn ddim o’i gymharu ag agenda’r bobol hyn. A nhw, yn gynyddol, yw prif ffrwd y blaid sy’n llywodraethu’r cenhedloedd hyn, yn dal y safle hwnnw ar sail pleidleisiau dim ond un o’r cenhedloedd hynny ac wedyn yn cymryd yr hawl iddi ei hun i benderfynu, neu derfynu, hawliau a dymuniadau’r gweddill.” (borthlas.blogspot.com)

A rhywbeth tebyg y mae Ben Wildsmith yn ei weld wrth drafod poblogrwydd y gair ‘woke’ wrth i’r asgell dde ymosod ar ei gelynion…

“Mae Llywodraethau Cymru a’r Alban, y Gwasanaeth Sifil, y Barnwyr, y BBC, yr RNLI, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol etc i gyd wedi eu rhoi yn yr un cwch â Duges Sussex a streicwyr i greu’r argraff nad bai’r bobol sydd wedi bod yn rhedeg y wlad am y 13 blynedd ddiwetha’ yw dirywiad trychinebus safonau byw Prydeinig, ond canlyniad i’r ffaith fod eu hymdrechion clodwiw yn cael eu tanseilio gan rwydwaith o wrthwynebwyr rhyfedd o bwerus.” (nation.cymru)

Ac yn rhyfedd iawn, mae’n bosib cymharu ambell elfen o’r coroni â’r hyn sy’n digwydd i glwb pêl-droed Wrecsam…

“… mae peth o lwyddiant Wrecsam yn dangos priodoleddau ‘Disneyfication’, y broses o greu adloniant emosiynol anodd-ei-wrthod ar gyfer cynulleidfaoedd eang ym mhopeth o chwaraeon i natur a straeon plant… mae Disney-eiddio Wrecsam yn newid y dref… Fel atyniadau Disney ledled y byd, mae clwb pêl-droed bychan yn dangos ei fod yn gallu cynhyrchu elw ariannol ac awgrym o ffantasi. Mae’n amlwg fod modd cael – a mwynhau – fersiwn Disneyaidd o’r breuddwyd Americanaidd yn y dref ansoffistigedig hon yng ngogledd Cymru.” (Simon Chadwick a Paul Widdop ar theconversation.com)