Mae tîm dartiau Cymru wedi ennill Cwpan y Byd am yr ail waith mewn pedair blynedd.
Fe wnaeth Gerwyn Price a Jonny Clayton guro’r Alban – Peter Wright a Gary Anderson – yn y rownd derfynol yn Frankfurt yn yr Almaen neithiwr (nos Sul, Mehefin 18).
Dyma’r tro cyntaf i’r gystadleuaeth gael ei chynnal ar ei newydd wedd, ac fe lwyddodd y ddau Gymro i ailadrodd y llwyddiant gawson nhw yn 2020.
Fe wnaeth Cymru guro Sweden yn rownd yr wyth olaf, a Gwlad Belg yn y rownd gyn-derfynol er mwyn wynebu’r Alban, sef pencampwyr 2019.
Wrth godi tlws Cwpan y Byd, mae Gerwyn Price a Jonny Clayton yn cael rhannu’r wobr ariannol o £80,000.
‘Am deimlad!’
“Mae’n hollol wych – am deimlad!” meddai Jonny Clayton ar ddiwedd y noson.
“Fe ddechreuon ni’n gyflym a chadw’r flaenoriaeth.
“Dw i ddim yn meddwl bod Gary a Peter wedi chwarae ar eu gorau, ond fe wnaethon ni ein gwaith a chadw’r flaenoriaeth.
“Mae’r gred yn ein gilydd, yr hyder yn ein gilydd, yn gweithio a phan maen nhw’n mynd, maen nhw’n mynd yn bert – roedd heno’n noson dda.
“Gerwyn yw fy ffrind gorau ar y daith, ac mae e’n gapten anhygoel.”
Dywed Gerwyn Price fod Cymru wedi cael “buddugoliaeth wych”.
“Rydyn ni wrth ein boddau o ennill,” meddai.
“Dw i’n meddwl bo fi wedi’i chael hi ychydig yn anodd yn y gêm honno [y rownd derfynol], a wnaeth Jonny ei hennill hi i ni heno – roedd e’n wych, yn glinigol.”
Canmol Cymru
Fe wnaeth yr Alban guro Ffrainc yn rownd yr wyth olaf, cyn trechu’r Almaen yn y rownd gyn-derfynol.
Dyma’r pumed tro iddyn nhw gyrraedd y rownd derfynol.
“Roedd y Cymry’n ffefrynnau ar gyfer y twrnament, ac fe wnaethon nhw chwarae’n wych yn y rownd derfynol,” meddai Peter Wright.
“Mae wedi bod yn dwrnament da iawn, gyda’r parau yr holl ffordd drwodd.
“Mae’n anhygoel cael chwarae gyda Gary, efallai bod henoed wedi dal i fyny â ni!”
Dywed Gary Anderson fod gan Gymru “dîm gwych”.
“Roedden nhw arni,” meddai.
“Mae gyda chi Gerwyn a’r hyn mae e wedi’i wneud yn y dartiau dros y blynyddoedd diwethaf – mae’n ddigon drwg chwarae yn erbyn Gezzy, ond wedyn mae gyda chi Jonny yn eu taro nhw i mewn.
“Dydyn ni ddim yn mynd yn iau, ond rydyn ni’n dal i drio.
“Cyrhaeddon ni’r ffeinal, ac mae unrhyw beth arall yn fonws.”