Mae Timm van der Gugten, bowliwr cyflym tîm criced Morgannwg, yn llygadu rownd wyth ola’r gystadleuaeth ugain pelawd o hyd, yn dilyn y fuddugoliaeth o 32 rhediad dros Swydd Gaerloyw yng Nghaerdydd ddoe (dydd Sul, Mehefin 18).

Roedd y sir Gymreig heb fuddugoliaeth yn eu tair gêm flaenorol, gan lithro allan o’r pedwar safle uchaf yn eu grŵp.

Maen nhw’n dal i fod yn bumed, gyda dim ond dau bwynt yn eu gwahanu nhw a Hampshire, sy’n bedwerydd ar hyn o bryd.

Tarodd Sam Northeast hanner canred wrth i’r tîm gyrraedd 183 am bump, ac roedd y bowlwyr yn ôl ar eu gorau unwaith eto yn dilyn cystadleuaeth ddigon siomedig iddyn nhw hyd yn hyn.

Roedd hi’n gêm agos hyd nes i’r Saeson golli pum wiced am 15 rhediad tua’r diwedd.

‘Angen mynd ar rediad’

“Roedden ni’n amlwg wedi colli’r gemau diwethaf, felly roedd hi’n braf mynd allan yno a chael y fuddugoliaeth,” meddai Timm van der Gugten, oedd wedi cipio dwy wiced yn yr ornest.

“Gobeithio bod hyn yn fan cychwyn ar gyfer rhywbeth, os gallwn ni fynd ar dipyn o rediad a gwthio am rownd yr wyth olaf.

“Mae [y nod] yn eithaf syml, sef mynd allan yno a cheisio’i bwrw hi mor galed ac mor bell ag y galla i.

“Does dim llawer o resymeg yn y peth, ond wrth lwc fe weithiodd heddiw, ac roedden ni’n gallu cael sgôr eithaf da ar y llain honno.”