Bydd Cymru yn herio Twrci draw yn Samsun heno (nos Lun, Mehefin 19), ond does gan un sylwebydd pêl-droed ddim ffydd yn y tîm ar ôl y golled yn erbyn Armenia nos Wener (Mehefin 16).

Collodd Cymru o 4-2 yn erbyn Armenia, a dyma oedd y tro cyntaf iddyn nhw golli gêm ragbrofol yn y brifddinas ers 2017.

Yn ôl y sylwebydd Nic Parry, mae diffyg trefn dactegol yn y garfan a byddai ganddo newidiadau pendant y byddai’n eu gwneud cyn y gêm heno, pe bai yn sefyllfa Rob Page.

Colli’r gêm yma, ac efallai y bydd yna “oblygiadau o safbwynt pwy sydd yn mynd i reoli Cymru”, medd y sylwebydd.

Tua theirawr cyn y gêm, fe wnaeth glaw trwm godi amheuon ynglŷn ag a fyddai’r gêm yn mynd yn ei blaen, meddai un o gefnogwyr Cymru sydd yn Samsun wrth golwg360.

Yn ôl Ffred Ffransis, cafodd y cefnogwyr eu cadw ar fysiau yn mynd i’r stadiwm wrth ddisgwyl penderfyniad, ond maen nhw bellach ar y ffordd gan fod y rhagolygon yn gaddo iddi stopio bwrw.

‘Gwers oedd angen ei dysgu’

“Roedd [y canlyniad] nos Wener yn fwy o sioc na siom, ond oherwydd ein bod ni wedi ymgolli yn rhamant y deng mlynedd ryfeddol sydd wedi bod,” meddai Nic Parry wrth golwg360.

“Mae yna anfodlonrwydd wedi bod i agor ein llygaid i be sydd wedi bod yn dod yn fwy ac yn fwy amlwg, ac yn sicr ddaeth yn amlwg yn ystod Cwpan y Byd, sef bod yna ddiffyg trefn dactegol yn chwarae Cymru.

“Mi ddywedodd Robert Page mai dyma’r deffroad roeddem ni angen ar ôl nos Wener, ond y gwir amdani oedd – roedd yna ddeffroad amlwg yn ystod Cwpan y Byd.

“Fe gawson ni bron iawn ein cywilyddio yng Nghwpan y Byd, ac mi ddylai pobol wedi sylwi bryd hynny.

“Ond rydyn ni wedi bod yn rhy ffyddlon i’r hen ffefrynnau ac wedyn pan ddigwyddodd o i’r fath raddau nos Wener, ddaru bobol aros a meddwl: ‘Waw. Mae hi mor ddrwg â hyn’.

“Roedd hi’n neges greulon ond roedd hi’n wers oedd angen ei dysgu.”

Ben Davies yn fwy o golled na Kieffer Moore

Bydd Cymru’n chwarae heb yr amddiffynnwr Ben Davies oherwydd genedigaeth ei blentyn cyntaf.

Dydy Kieffer Moore ddim ar gael chwaith ar ôl derbyn cerdyn coch yn erbyn Armenia.

Ond pa golled fydd hyn i Gymru heno?

“Bydd colli Ben Davies yn ergyd drom,” meddai Nic Parry.

“Yn y gemau cyntaf, yn enwedig yn y gemau agoriadol, roedd o’n absennol oherwydd anaf ac fe wnaethpwyd camgymeriadau yn erbyn Croatia fyddai ddim wedi digwydd petai Ben Davies yno.

“Heno rydyn ni’n mynd yn erbyn tîm arall sy’n dîm cryf, ac rydyn ni’n mynd i golli Ben eto.

“Mae o’n dod â’r profiad a’r cysondeb sydd am ryw reswm wedi diflannu o chwarae amddiffynnol Cymru.

“Dw i’n meddwl y bydd o’n fwy o golled na Kieffer Moore.

“Fe allai absenoldeb Kieffer Moore fod yn fantais pe bai’r rheolwr yn gallu cymryd mantais a defnyddio ffordd wahanol o chwarae, yn hytrach na chicio’r bêl i fyny’r cae ato fo bob tro.

“Mae o wedi bod yn hwyrfrydig i wneud y newid yna… Wel, heno fydd rhaid iddo fo.

“Falle geith o weld bod dim rhaid chwarae un ffordd a dibynnu ar Kieffer Moore.”

Ben Davies
Ben Davies yn ymarfer gyda charfan Cymru

Newidiadau Nic

Pe bai Nic Parry yn sgidiau’r rheolwr Rob Page, byddai’n dod â Wayne Hennessey ymlaen fel gôl-geidwad yn lle Danny Ward a byddai lle i Joe Morrell yng nghanol cae.

“Ro’n i’n rhyfeddu bod o wedi cael ei adael allan [nos Wener],” meddai.

“Ac wedyn mae’r dewisiadau eraill yn cael eu gwneud oherwydd absenoldeb Kieffer Moore.

“A dw i’n meddwl efallai, efallai byswn i’n chwarae pump yn y cefn achos, er bod Ben Davies ddim ar gael, mae yna amddiffynwyr eraill yno.

“Dyna’r drefn sydd wedi gweithio bob tro i Gymru, a heno maen nhw’n chwarae tîm dipyn gwell nag Armenia, a bosib bydd yna lawer o waith amddiffynnol i’w wneud.

“Dw i ddim yn teimlo’n ffyddiog am heno.”

‘Goblygiadau mawr’

Ychwanega Nic Parry ei fod yn poeni y gall fod yna golled heno, ond y gall fod “goblygiadau mawr” i’r golled honno hefyd.

“Yr amlycaf ydy, byddai gobaith Cymru o gyrraedd y rowndiau terfynol, os nad ar ben, wedi cael andros o ergyd,” meddai.

“Ond falle hefyd byddai yna oblygiadau o safbwynt pwy sydd yn mynd i reoli Cymru – mae hi’n gêm mor bwysig â hynny.

“Ond fe aeth Cymru allan i Croatia ac fe gawson ni gweir, a rhywsut fe ddaethon ni oddi yno efo pwynt – yn groes i bob disgwyliad.

“Felly mae hynny wastad yn rhoi gobaith i chi.”

Cefnogwyr mewn ‘ysbryd da’

Ond er gwaetha’r ergyd nos Wener, mae yna “awyrgylch parti” ymysg cefnogwyr Cymru yn Samsun, yn ôl un aelod o’r Wal Goch sydd yno.

“Mae’n help siŵr o fod bod ni ar lan y môr a bod y tywydd yn eithaf da ar y funud a bod yna sefydliadau ar hyd y traeth hefyd,” meddai Ffred Ffransis, sy’n gefnogwr brwd ac yn dod o Lanfihangel-ar-arth yn Sir Gaerfyrddin, wrth golwg360.

“Mae cefnogwyr Cymru mewn ysbryd da.

“Mewn gwirionedd, mae pawb yn benderfynol.

“Yn union fel efo Armenia, fe wnaeth Armenia golli adref yn erbyn Twrci mis Mawrth felly roedd rhaid iddyn nhw ennill yng Nghymru.

“Fe wnaethon ni golli adref mae rhaid i ni ennill rŵan yn Nhwrci heno.

“Os wnawn ni hynny fyddan ni ar ben y grŵp a byddan ni ar y blaen i Dwrci ac Armenia.”

Cefnogwyr Cymru yn Samsun

‘Angen buddugoliaeth’

Er bod y cefnogwr i weld yn fwy gobeithiol na Nic Parry, mae’n cydnabod fod pwysau ar Rob Page “beth bynnag wneith o”.

“Mae pob math o broblemau gyda chwaraewyr wedi’u hanafu neu wedi’u gwahardd.

“Mae’r ysbryd yna i weithio. Dw i’n gobeithio cawn ni weld [hynny] yn y tîm hefyd, llawer iawn mwy o waith brwydro nac oedd noson o’r blaen.

“Ar gyfer y gêm heno, mae angen buddugoliaeth arnom ni. Dydy cael un pwynt yma ac acw ddim yn ddigon.

“Mae’n well mentro, ennill gemau hyd yn oed os yw’n golygu colli ambell un.

“Rydyn ni’n gobeithio erbyn hyn, ar ôl chwarae yn erbyn Iran ac Armenia, y gallwn ni chwarae rŵan am y trydydd tro mewn chwe mis yn erbyn gwlad sydd yn chwarae’r un arddull, yn yr un rhan o’r byd yn Nhwrci.

“Er bo ni wedi colli Tom Lockyer, Ben Davies, Rhys Norrington-Davies, dydyn nhw i gyd ddim gennym ni yn amddiffyn, gobeithio bydd Cymru yn fwy tynn yn amddiffynnol, yn fentrus yn mynd ymlaen, ac yn cymryd eu cyfleoedd.”

  • Bydd y gic gyntaf am 7:45 heno, a’r gêm i’w gweld ar S4C.