Ar ôl i Rob Page dargedu chwe phwynt yn eu dwy gêm ragbrofol ar gyfer Ewro 2024, maen nhw wedi gadael Twrci yn waglaw ar ôl colli o 2-0 yn Samsun.
Daw hyn ar ôl y grasfa o 4-2 yn erbyn Armenia yng Nghaerdydd.
Daeth y goliau gan Umut Nayir ar ôl 72 munud, cyn i’r eilydd Arda Guler ddyblu’r fantais wyth munud yn ddiweddarach.
Bu’n rhaid i Gymru chwarae dros hanner y gêm â deg dyn ar ôl i Joe Morrell weld cerdyn coch am gic uchel ar Ferdi Kadioglu.
Gallai fod wedi bod yn waeth o lawer, serch hynny, ar ôl i Chris Mepham daro’r bêl i’w rwyd ei hun oddi ar groesiad y cefnwr de Zeki Celik ar ôl naw munud, ond roedd yna gamsefyll a chafodd y gôl ei dileu gan y dyfarnwr fideo (VAR).
Cafodd gôl arall ei dileu ar ôl 69 munud ar ôl i’r bêl daro Umut Nayir ar ei fraich cyn iddo daro’r bêl i’r rhwyd.
Ac fe arbedodd Danny Ward gic o’r smotyn gan Hakan Calhanoglu ar ôl i’r bêl gael ei llawio yn y cwrt cosbi.
Mae’r canlyniad yn gadael Cymru yn y pedwerydd safle yn eu grŵp, ac mae’n ymddangos bod y ddau ganlyniad dros y dyddiau diwethaf wedi cynyddu’r pwysau ar y rheolwr Rob Page.
Y tebygolrwydd bellach yw y bydd rhaid i Gymru ddibynnu ar y gemau ail gyfle os ydyn nhw am gymhwyso ar gyfer y twrnament yn yr Almaen.