Mae gan dîm criced Morgannwg wythnos fawr o’u blaenau, gan ddechrau gyda thaith i’r Oval heno (nos Fawrth, Mehefin 20) i herio Surrey yng nghystadleuaeth ugain pelawd y Vitality Blast.

Ar ôl rhediad heb fuddugoliaeth, fe wnaethon nhw guro Swydd Gaerloyw o 32 rhediad dros y penwythnos, sy’n golygu eu bod nhw ddau bwynt yn unig islaw’r pedwar safle uchaf hollbwysig.

Mae ganddyn nhw gêm wrth gefn o gymharu â’r timau eraill ar hyn o bryd hefyd.

Ar ôl heno, bydd ganddyn nhw gemau i ddod yn erbyn Gwlad yr Haf (nos Fercher, Mehefin 21) a Sussex (nos Wener, Mehefin 23).

Gemau’r gorffennol

Yn dilyn y fuddugoliaeth fawr ddydd Sul, mae Morgannwg wedi codi o’r chweched i’r pumed safle yn y tabl.

Mae Hampshire, sy’n bedwerydd, ddau bwynt ar y blaen ond wedi chwarae un gêm yn fwy na’r sir Gymreig.

Ar ôl colli yn erbyn Hampshire dros y penwythnos, mae Surrey wedi llithro i’r ail safle, ac mae ganddyn nhw gyfradd sgorio is na Gwlad yr Haf ar y brig.

Roedd Morgannwg yn ddi-guro ar yr Oval mewn gemau ugain pelawd tan 2019, ond Surrey sydd wedi bod yn fuddugol yn y tair gêm ddiwethaf yn erbyn Morgannwg yn Llundain.

Enillodd y Saeson o 97 rhediad yn 2019, o bum wiced yn 2021 ac o bedair wiced yn 2022.

Yn y gêm olaf honno y tymor diwethaf, cipiodd Michael Hogan bum wiced am 18 wrth i Surrey gwrso 174 yn llwyddiannus.

Yn 2015, tarodd Colin Ingram 91 i Forgannwg, sef y sgôr gorau gan fatiwr Morgannwg yn erbyn Surrey mewn gêm ugain pelawd wrth i’w dîm sgorio 240 am dair – 196 o rediadau’n fwy na’u sgôr yno yn 2019.

Cam Fletcher yn lle Colin Ingram

Yn y cyfamser, mae Morgannwg wedi denu Cam Fletcher yn lle Colin Ingram ar gyfer yr wythnos sydd i ddod.

Mae’r batiwr 30 oed o Seland Newydd yn chwarae i glwb yn Swydd Efrog ar hyn o bryd, a bydd e’n ymuno â’r garfan ar drothwy’r gêm heno.

Mae’n hanu o Auckland ac yn chwarae i glwb Canterbury, ac mae ganddo fe gyfartaledd dros 35 mewn 92 o gemau ugain pelawd, a chyfradd sgorio o 131.

Cafodd ei gynnwys yng ngharfan Seland Newydd ar gyfer y gyfres o gemau prawf yn erbyn De Affrica fis Chwefror y llynedd, ac ar gyfer y daith i Loegr.

Yn fwyaf diweddar, bu’n chwarae i dîm ‘A’ Seland Newydd yn erbyn Awstralia.

Carfan Surrey: C Jordan (capten), S Abbott, G Atkinson, J Blake, S Curran, T Curran, L Evans, W Jacks, T Lawes, D Moriarty, S Narine, J Overton, J Smith, C Steel

Carfan Morgannwg: C Taylor, K Carlson (capten), B Root, A Gorvin, S Northeast, R Smith, A Salter, P Sisodiya, P Hatzoglou, J McIlroy, C Cooke, T van der Gugten, C Fletcher, W Smale