Mae Scott Baldwin wedi cyhoeddi ei fod yn ymddeol o rygbi, ar ôl dros degawd o chwarae’n broffesiynol.
Ymddangosodd y chwaraewr 34 oed 183 o weithiau i’r Gweilch, ac enillodd 37 o gapiau dros Gymru.
Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf i’r Gweilch yn 2009 yn erbyn Leinster, gan chwarae 162 o weithiau i’r rhanbarth, cyn symud i Uwch Gynghrair Lloegr i chwarae i’r Harlequins a Chaerwrangon.
Bydd yn dechrau fel hyfforddwr amddiffyn gyda’r Newcastle Falcons yn fuan.
‘Anrhydedd’
Wrth gyhoeddi ei ymddeoliad o rygbi, dywedodd ei bod “yn anrhydedd cynrychioli a chwarae i’r Gweilch a Chymru”, a’i fod yn “hynod ddiolchgar am y cyfeillgarwch, yr atgofion a’r profiadau” bythgofiadwy.
Dywed iddo “wireddu breuddwyd” drwy gynrychioli Cymru ar y llwyfan rhyngwladol.
“Fodd bynnag, rhaid i bob antur fawr ddod i ben, ac mae’n bryd imi ymddeol a dilyn cam nesaf fy mywyd,” meddai.
“Dw i wedi bod yn chwarae rygbi ers amser maith, a mynd i lefel nesaf fy mywyd yw’r penderfyniad iawn i mi.
“Roedd yn anodd gwneud y dewis, ond mae’r amser yn iawn.
“Nid yw’n benderfyniad hawdd, oherwydd dw i’n angerddol dros chwarae rygbi, ond dw i’n teimlo ei bod hi’n bryd camu’n ôl a chanolbwyntio ar fy ngyrfa hyfforddi.
“Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi fy nghefnogi drwy gydol fy ngyrfa rygbi, o’m cyd-chwaraewyr i hyfforddwyr, cefnogwyr ac yn bennaf oll, fy nheulu.
“Roedd yn anrhydedd chwarae i Ben-y-bont ar Ogwr, y Gweilch, Harlequins, Worcester Warriors a chynrychioli fy ngwlad.
“Diolch am bopeth.”
‘Diwedd cyfnod’
“Cysylltodd Scott â ni gyda chynnig wnaethon ni ei drafod, a chytunwyd mai’r cyfle yma oedd orau iddo fe a’i deulu,” meddai Toby Booth, prif hyfforddwr y Gweilch.
“Mae wedi bod yn ffigwr pwysig yn rygbi Cymru am flynyddoedd lawer o’i yrfa, ac mae ei benderfyniad i ymddeol yn ddiwedd cyfnod.
“Wrth iddo symud ymlaen i gam nesaf ei yrfa, hoffem gymryd yr amser hwn i ddiolch i Scott am ei amser gyda’r Gweilch a dymuno’n dda iddo yn ei rôl newydd.”