Mae’r Cymro ifanc Joel Cotterill wedi llofnodi cytundeb newydd gyda Chlwb Pêl-droed Abertawe.

Bydd yn ei gadw gyda’r Elyrch tan o leiaf haf 2026.

Ymunodd y chwaraewr 18 oed â’r clwb yn saith oed, ac fe lofnododd ei gytundeb proffesiynol cyntaf gyda nhw haf diwethaf.

Cafodd ei enwi’n Chwaraewr y Flwyddyn yr Academi yn ddiweddar, ar ôl arwain y tîm dan 21 ar sawl achlysur.

Daeth ei gêm gyntaf i’r tîm cyntaf fel eilydd yn erbyn Oxford United yng Nghwpan Carabo fis Awst diwethaf.