Mae Liam Williams, cefnwr tîm rygbi Cymru, wedi ymuno â thîm Kubota Spears yn Japan.

Roedd gan y cefnwr 32 oed flwyddyn yn weddill o’i gytundeb gyda Rygbi Caerdydd, ond mae’r rhanbarth yn awyddus i dorri costau ar gyfer y tymor nesaf.

Fydd hyn ddim yn effeithio ar ei obeithion o barhau i chwarae dros Gymru, gan ei fod e wedi ennill 84 o gapiau, ac mae disgwyl iddo fe chwarae rhan yng Nghwpan y Byd yn Ffrainc yn ddiweddarach eleni.

Dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd i ba glwb yn Japan fydd e’n chwarae, ond y disgwyl yw y bydd yn symud yno ar ôl y twrnament ar ôl pasio prawf meddygol arbennig oherwydd yr holl anafiadau mae e wedi’u cael yn ystod ei yrfa.

Mae Liam Williams yn ymuno â Tomas Francis (Provence), Joe Hawkins (Caerwysg), Cory Hill (Japan), Dillon Lewis (Harlequins), Ross Moriarty (Brive), Will Rowlands (Racing 92) a Rhys Webb (Biarritz) ar restr hir o chwaraewyr sydd yn gadael Cymru i chwarae eu rygbi domestig y tymor nesaf.

Ac mae ansicrwydd ar hyn o bryd ynghylch dyfodol Gareth Anscombe, Leigh Halfpenny a Rhys Patchell, sydd i gyd wedi cael eu rhyddhau gan eu rhanbarthau.

‘Atgofion melys’

Mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol, dywed Liam Williams fod ganddo fe “atgofion melys” o chwarae yn Japan yn ystod Cwpan y Byd yn 2019.

“Wna i fyth anghofio pa mor groesawgar oedd pawb,” meddai.

“Dw i’n edrych ymlaen at flasu ffordd newydd o fyw gyda fy ngwraig Sophie, ac rydyn ni wedi cyffroi ynghylch y cyfle.

“Dw i wedi gwneud atgoion anhygoel mewn rygbi yng Nghymru dros y blynyddoedd, a rhaid i fi ddiolch i Undeb Rygbi Cymru a Rygbi Caerdydd am eu dealltwriaeth yn ystod misoedd heriol.

“Bydda i’n gwneud popeth posib i gael fy newis ar gyfer ymgyrch Cwpan y Byd gyda Chymru a dw i wedi cyffroi ynghylch y cyfle o gael bod yn rhan ohono.”