Mae Chris Cooke, wicedwr tîm criced Morgannwg, yn dweud bod y sir yn anelu am dair buddugoliaeth o’u pedair gêm olaf er mwyn cyrraedd rownd wyth ola’r gystadleuaeth ugain pelawd, y Vitality Blast.

Daw hyn ar ôl colled o 81 o rediadau yn erbyn Surrey ar yr Oval neithiwr (nos Fawrth, Mehefin 20).

Sicrhaodd Surrey eu cyfanswm uchaf erioed ar y cae hwnnw, wrth iddyn nhw gyrraedd 238 am bump – eu trydydd sgôr uchaf erioed.

Tarodd Will Jacks 69, ei drydydd hanner canred yn y gystadleuaeth eleni, ac fe gafodd ei gefnogi gan Laurie Evans (40) a Sunil Narine (36) i osod y seiliau ar gyfer cyfanswm swmpus.

Tarodd Sam Curran 59 oddi ar 22 o belenni yn niwedd y batiad, a sgoriodd ei frawd Tom 23 oddi ar 13 o belenni wrth i’r brodyr ychwanegu 80 at y cyfanswm oddi ar 33 o belenni ola’r batiad.

Noson i’w hanghofio

I’r gwrthwyneb, ildiodd Morgannwg eu trydydd sgôr uchaf erioed, a doedd eu 157 am wyth ddim yn agos at fod yn ddigonol.

Roedd Colin Ingram allan ag anaf, ac fe ddaeth Cam Fletcher, batiwr o Seland Newydd, i mewn yn ei le ar ôl bod yn chwarae i glwb New Farnley yn Swydd Efrog yn ddiweddar, ac roedd Will Smale ac Andy Gorvin hefyd yn chwarae eu gemau ugain pelawd cyntaf i’r sir.

Sgoriodd Surrey ar gyfradd o ryw ddeuddeg drwy gydol y batiad, gyda Jacks ac Evans wedi sgorio 64 yn ystod y cyfnod clatsio.

Cipiodd Morgannwg dair wiced mewn 11 o belenni wedyn i atal y llif rywfaint wrth i’r troellwr coes Peter Hatzoglou gipio dwy wiced mewn pum pelen.

Ond fe wnaeth y brodyr Curran gosbi’r bowlwyr yn y pen draw, wrth i Sam daro hanner canred am y pedwerydd tro ar ddeg wrth sgorio’r trydydd hanner canred cyflymaf yn hanes Surrey oddi ar ddeunaw o belenni.

Yn y pen draw, collodd Morgannwg wicedi’n rhy aml, er i Smale daro 27 oddi ar 16 o belenni ar frig y batiad.

Ychwanegodd Billy Root (31) a Chris Cooke 48 am y bedwaredd wiced, gyda Cooke yn sgorio 49 oddi ar 28 o belenni cyn i Chris Jordan, capten Surrey, gipio’i bedwaredd wiced i orffen gyda phedair am 21.

‘Colled drom’

“Doedden ni ddim wir arni gyda’r bêl yn gynnar, ac roedd cwrso 238 bob amser am fod yn dasg anodd yn erbyn Surrey, sy’n gampus gyda’r bêl,” meddai Chris Cooke.

“Dw i’n teimlo fy mod i’n perfformio’n dda, ac roedd hi’n braf cael mynd allan a tharo ychydig oddi ar ganol y bat, ond mae’n golled drom ac mae’n rhaid i ni daro’n ôl.

“Cawson ni sgwrs dda wedyn.

“Mae’n debyg fod rhaid i ni ennill o leiaf dair allan o’n pedair gêm olaf, mae gyda ni bedair ffeinal, yn syml iawn, gan ddechrau yn erbyn Gwlad yr Haf.

“Mae’n drosiant cyflym, ond gobeithio y gallwn ni roi hwb i’n hymgyrch yn eu herbyn nhw.”