Mae Russell Martin wedi gadael Clwb Pêl-droed Abertawe, ac wedi’i benodi’n rheolwr ar Southampton.
Roedd ganddo ychydig dros flwyddyn yn weddill o’i gytundeb tair blynedd.
Mewn datganiad, dywed y clwb fod ar Southampton iawndal llawn iddyn nhw, wrth i’r clwb yn Lloegr fynnu na ddylen nhw orfod talu’n llawn am eu bod nhw bellach yn dîm yn y Bencampwriaeth ac nid yr Uwch Gynghrair.
Ond mae Abertawe’n mynnu eu bod nhw’n dal yn yr Uwch Gynghrair pan ddechreuodd y trafodaethau rai wythnosau yn ôl.
Mae Abertawe wedi diolch iddo, gan ddweud y byddan nhw’n rhoi diweddariad ynghylch olynydd Russell Martin maes o law.
Bydd ei gytundeb gyda Southampton yn para tan 2026, ac mae’r clwb yn dweud mai fe oedd yr ymgeisydd oedd yn sefyll allan wrth iddyn nhw recriwtio olynydd i Ruben Selles.
Mae disgwyl mai Michael Duff, rheolwr Barnsley, fydd yn olynu Russell Martin yn Stadiwm Swansea.com.